B03487:419
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Ei naturiaethau ydynt ddwy. In gyntaf y Dduwiol. Y mae ef in dragywyddol Fâb Duw, Gwir Dduw o wîr Dduw, o'r un Dduwiol Hanfod a sylwedd â'i Dâd, A rheidiol oedd i'n prynwr fod in Dduw:
3. Ei naturiaethau ydynt ddwy. Yn gyntaf y Dduwiol. Y mae ef yn dragywyddol Fâb Duw, Gwir Dduw o wîr Dduw, o'r un Dduwiol Hanfod a sylwedd â'i Dâd, A rheidiol oedd i'n prynwr fod yn Dduw:
In gyntaf, Fell y byddai iddo allu goddef y cwbl ac oedd iw ddioddef dross bechod dŷn. Yr ydoedd digofaint Duw in erbyn pechod in gymmaint, ac y gallai wascu 'r Angylion a ai dano o'r nêf i lawr i uffern. Rhaid ydoedd wrth Allu Duw i gynnal dan ddigofaint Duw. Buasai pwys digofaint Duw in rhy drwm i nature ddynol Christ, oni bay ir Nature Dduwiol ei nerthu a'i Chynnal hi.
Yn gyntaf, Fel y byddai iddo allu goddef y cwbl ac oedd iw ddioddef dros bechod dŷn. Yr ydoedd digofaint Duw yn erbyn pechod yn gymmaint, ac y gallai wascu 'r Angylion a ai dano o'r nêf i lawr i uffern. Rhaid ydoedd wrth Allu Duw i gynnal dan ddigofaint Duw. Buasai pwys digofaint Duw yn rhy drwm i natur ddynol Christ, oni bai ir Natur Dduwiol ei nerthu a'i Chynnal hi.
In ail, Fell y byddai iw ufydd-dod ef a'i ddioddefiadau fod in dra-gwerthfawr. Yr odoedd ufudd-dod a marwoloaeth Christ o anfeidrol werthfawrogrwydd, am eu bod in ufydd-dod a marwolaeth Mâb Duw, self yr hwn ydoedd Dduw gystal a dŷn.
Yn ail, Fel y byddai iw ufydd-dod ef a'i ddioddefiadau fod yn dra-gwerthfawr. Yr odoedd ufudd-dod a marwoloaeth Christ o anfeidrol werthfawrogrwydd, am eu bod yn ufydd-dod a marwolaeth Mâb Duw, sef yr hwn ydoedd Dduw gystal a dŷn.