B03487:42
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cymmhwys. 1. Gall hyn ddwyn ar •deall ⟨p. 6⟩ini, cyfiawned yw 'r achos ini i ffieiddio cre•ydd y Papistiad, y rhai a ommeddant i'r bobl ddarllen yr yscrythyrau, gan eu cadw oddiwrthynt.
In 1. Sam. 13.19. ni ddarllenwn fod y Phylistiaid in caethiwo Israel, ac er mwyn eu dal hwy tanynt, ni oddefent un gof in y tir, rhag ir Hebreaid wneuthur iddynt eu hunain gleddyfau a gwaiw-fin i ymladd in eu herbyn hwynt. Y cyfryw ddichell a arferodd y Papistiaid in hîr, ac a arferant in awr hefyd, i gadw pobl mewn dallineb ac anwybodaeth, rhag canfod o honynt y beiau Ffiaidd a'r sydd in eu crefydd hwynt, canys ni chynwysant i'r bobl gael y Bibl in eu jaith mamawl, eithr mynnant ei gloi ef rhagddynt hwy mewn tafod dieithr, rhag iddynt oddiyno dynnu rhesymmau i argoeddi eu opiniwnau a'u harferion ynfyd hwynt.
Yn 1. Sam. 13.19. ni ddarllenwn fod y Phylistiaid yn caethiwo Israel, ac er mwyn eu dal hwy tanynt, ni oddefent un gof yn y tir, rhag ir Hebreaid wneuthur iddynt eu hunain gleddyfau a gwaiw-ffyn i ymladd yn eu herbyn hwynt. Y cyfryw ddichell a arferodd y Papistiaid yn hîr, ac a arferant yn awr hefyd, i gadw pobl mewn dallineb ac anwybodaeth, rhag canfod o honynt y beiau Ffiaidd a'r sydd yn eu crefydd hwynt, canys ni chynwysant i'r bobl gael y Bibl yn eu iaith mamawl, eithr mynnant ei gloi ef rhagddynt hwy mewn tafod dieithr, rhag iddynt oddiyno dynnu rhesymmau i argoeddi eu opiniwnau a'u harferion ynfyd hwynt.