B03487:468
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y cyntaf a wnaeth efe pan ydoedd efe ar y ddaiar, drwy ei offrwm ei hun in aberth i fodloni cyfiawnder Duw. Yr ail y mae efe in ei wneuthur in y nefoedd, ac efe in eistedd ar ddeheu law Duw i wneuthur erfyniad drosom in ddibaid.
Y cyntaf a wnaeth efe pan ydoedd efe ar y ddaiar, drwy ei offrwm ei hun yn aberth i fodloni cyfiawnder Duw. Yr ail y mae efe yn ei wneuthur yn y nefoedd, ac efe yn eistedd ar ddeheu law Duw i wneuthur erfyniad drosom yn ddibaid.
Aberthu ac eirioli ydoedd brif weithredoedd yr Arch-offeiriad dan y gyfraith: in yr offrymmau defodol lleddid yr anifail ar yr allor, ac yna y dugid y gwaed gydag arogl-dearth gan yr Arch-offeiriad i'r Sanctaidd sancteiddolaf, â'r gwaed y taenellai 'r Drugareddfa, ac â'r arogl-dearth y codai cwmwl ar y Drugareddfa. Lev. 11.11.15. Felly y lladdwyd Christ in gyntaf pan offrymwyd ef in aberth, ac yna y ducpwyd ei waed ef ir Sanctaidd Sancteiddiolaf, self y nefoedd. Heb. 9.12. Ac yno y mae efe in erfyn drosom drwy rinwedd y gwaed hwnw. Arwyddoccâd o'r hyn oedd y cwmwl arogl-dearth dan y gyfraith.
Aberthu ac eirioli ydoedd brif weithredoedd yr Arch-offeiriad dan y gyfraith: yn yr offrymmau defodol lleddid yr anifail ar yr allor, ac yna y dugid y gwaed gydag arogl-darth gan yr Arch-offeiriad i'r Sanctaidd sancteiddolaf, â'r gwaed y taenellai 'r Drugareddfa, ac â'r arogl-darth y codai cwmwl ar y Drugareddfa. Lev. 11.11.15. Felly y lladdwyd Christ yn gyntaf pan offrymwyd ef yn aberth, ac yna y ducpwyd ei waed ef ir Sanctaidd Sancteiddiolaf, sef y nefoedd. Heb. 9.12. Ac yno y mae efe yn erfyn drosom drwy rinwedd y gwaed hwnw. Arwyddoccâd o'r hyn oedd y cwmwl arogl-darth dan y gyfraith.