B03487:482
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gellir hefyd ddywedyd fod Christ in erfyn drosom ni wrth ysbysu ei Ewyllys o fod ei etholedigion ef in gyfrannogion o fûdd ei aberth ef, yr hyn a wnaiff in ei nature Dduwiol. In ei gorph y mae efe in eistedd in y nef.
Gellir hefyd ddywedyd fod Christ yn erfyn drosom ni wrth ysbysu ei Ewyllys o fod ei etholedigion ef yn gyfrannogion o fûdd ei aberth ef, yr hyn a wnaiff yn ei natur Dduwiol. Yn ei gorph y mae efe yn eistedd yn y nef.
Gwelodd Stephan Fab y dŷn, self Christ in ei nature ddynol in sefyll ar ddeheulaw Duw in y nefoedd. Act. 7.56. And ewyllysio a pheri ini gael ffrwyth ei ddioddefiadau ef, a ddeilliaw o'i Dduwdod ef, a thrwy 'r ewyllys hon o'r eiddo ef y sancteiddir ni, ac y gwneir rhinwedd ufydd-dod Christ ai ddioddefaint in eiddom ni.
Gwelodd Stephan Fab y dŷn, sef Christ yn ei natur ddynol yn sefyll ar ddeheulaw Duw yn y nefoedd. Act. 7.56. Ond ewyllysio a pheri ini gael ffrwyth ei ddioddefiadau ef, a ddeilliaw o'i Dduwdod ef, a thrwy 'r ewyllys hon o'r eiddo ef y sancteiddir ni, ac y gwneir rhinwedd ufydd-dod Christ ai ddioddefaint yn eiddom ni.
Fell hyn y mae ersyniad Christ in gosod allan dragywyddol rinwedd ei aberth ef, ac in ei chyfrannu ir ffyddloniaid. y mae ei gorph ef a aberthwyd, in oestadol ger bron Duw, ac ynteu in ewyllysio ini gael cyfran o'i jechydwriaeth ef.
Fel hyn y mae ersyniad Christ yn gosod allan dragywyddol rinwedd ei aberth ef, ac yn ei chyfrannu ir ffyddloniaid. y mae ei gorph ef a aberthwyd, yn oestadol ger bron Duw, ac ynteu yn ewyllysio ini gael cyfran o'i iechydwriaeth ef.