B03487:497
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Y mae Christ fell brenin in rhagddarbod iw eglwys. Y mae ei barattoad ef in cyrhaedd at bob peth ac sydd reidiol i enaid ac i gorph, self at bob bendithion amserol ac ysprydol. Am fendithion amserol, yr ydym in darllen am y rhai oeddynt in ⟨p. 112⟩canlyn Christ, eu bod in cyffessu nad oedd arnynt eisiau dim; Luc. 22.35.
II. Y mae Christ fel brenin yn rhagddarbod iw eglwys. Y mae ei barattoad ef yn cyrhaedd at bob peth ac sydd reidiol i enaid ac i gorph, sef at bob bendithion amserol ac ysprydol. Am fendithion amserol, yr ydym yn darllen am y rhai oeddynt yn ⟨p. 112⟩canlyn Christ, eu bod yn cyffessu nad oedd arnynt eisiau dim; Luc. 22.35.
Os gad ef in ei ddoethineb i neb or eiddo i fod mewn eisiau, efe a all ac a fin eu dyscu hwynt, fell y dyscodd ef iw Apostol, i fod in gysurus ac in fodlon mewn prinder, ac i fod in doeth mewn llawnder ac belaethrwydd. Phil. 4.12. Eithr am fendithion ysprydol, yr hyn y mae 'r Apostol in ei ddywedyd am y Seintiau in Corinth 1 Cor. 1.7. sydd wir am 'r holl seintiau ym mhob man; Nid ydynt in ol mewn un dawn. Ac ymhellach y mae Christ fell Brenin o'r nef in parattoi etifeddiaeth nefol ini. Mat. 19.29.
Os gad ef yn ei ddoethineb i neb or eiddo i fod mewn eisiau, efe a all ac a fyn eu dyscu hwynt, fel y dyscodd ef iw Apostol, i fod yn gysurus ac yn fodlon mewn prinder, ac i fod yn ddoeth mewn llawnder ac belaethrwydd.