B03487:498
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Os gad ef in ei ddoethineb i neb or eiddo i fod mewn eisiau, efe a all ac a fin eu dyscu hwynt, fell y dyscodd ef iw Apostol, i fod in gysurus ac in fodlon mewn prinder, ac i fod in doeth mewn llawnder ac belaethrwydd. Phil. 4.12. Eithr am fendithion ysprydol, yr hyn y mae 'r Apostol in ei ddywedyd am y Seintiau in Corinth 1 Cor. 1.7. sydd wir am 'r holl seintiau ym mhob man; Nid ydynt in ol mewn un dawn. Ac ymhellach y mae Christ fell Brenin o'r nef in parattoi etifeddiaeth nefol ini. Mat. 19.29.
Os gad ef yn ei ddoethineb i neb or eiddo i fod mewn eisiau, efe a all ac a fyn eu dyscu hwynt, fel y dyscodd ef iw Apostol, i fod yn gysurus ac yn fodlon mewn prinder, ac i fod yn ddoeth mewn llawnder ac belaethrwydd. Phil. 4.12. Eithr am fendithion ysprydol, yr hyn y mae 'r Apostol yn ei ddywedyd am y Seintiau yn Corinth 1 Cor. 1.7. sydd wir am 'r holl seintiau ym mhob man; Nid ydynt yn ol mewn un dawn. Ac ymhellach y mae Christ fel Brenin o'r nef yn parattoi etifeddiaeth nefol ini. Mat. 19.29.
3. Y mae Christ fell Brenin in ymddiffin ei eglwys. Ac y mae ei ymddiffyniad ef o'i eglwys in cyrredd cŷn belled ac y mae ei barattoad ef iddi: Canys y mae ef in ei ymddiffin hi oddiwrth elynion amserol, Ysprydol, a thragywyddol. Y mae 'r gorffwysfa'r oedd yr eglwys in ei gael in amser yr apostolion, in rhoddi eglurhâd o'i ymddiffyniad ef o honey oddiwrth ddrygau amserol. Os gad ef iddi gael ei chystuddio, y mae ef in gwneuthur hynny o'i wir ddoethineb iw ogoniant ei hun, a daioni iw eglwys, gan ei chynnal hi in y prosiadau mwyaf.