B03487:522
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ac nid yw 'r gyfraith in unig in gofyn oddi ar ein law ni wneuthur y peth a orchmynir i ni, and hefyd dioddef y gospedigaeth a fwgythir ar ein hanufyddgarwch ni; a ni heb fod in gallu gwneuthur y nail, na dioddef y llall; Jesus Grist megis ein meicheu ni, y ddarfu iddo gyflowni, a dioddef trostom ni; am hynny y dywedir am dano, ei fod ef wedi ei wneuthur tan y ddeddf, fell y prynei y rhai oedd tan y ddeddf. Gal. 4.4.
Ac nid yw 'r gyfraith yn unig yn gofyn oddi ar ein llaw ni wneuthur y peth a orchmynir i ni, ond hefyd dioddef y gospedigaeth a fwgythir ar ein hanufyddgarwch ni; a ni heb fod yn gallu gwneuthur y naill, na dioddef y llall; Jesu Grist megis ein meicheu ni, y ddarfu iddo gyflowni, a dioddef trostom ni; am hynny y dywedir am dano, ei fod ef wedi ei wneuthur tan y ddeddf, fel y prynei y rhai oedd tan y ddeddf. Gal. 4.4.
In ail. Christ a'i darostyngodd ei hun in ei fywyd, trwy fined tan drueni y bŷd hwn. Ei holl fywyd ef oedd ddioddefaint parhaus, a hynny o'i enedigaeth hŷd ei farwolaeth.
Yn ail. Christ a'i darostyngodd ei hun yn ei fywyd, trwy fyned tan drueni y bŷd hwn. Ei holl fywyd ef oedd ddioddefaint parhaus, a hynny o'i enedigaeth hŷd ei farwolaeth.
In gyntaf, in ddŷn bâch, heb fedryd mor cerdded, fo fu raid iddo ffoi ir Aipht rhag Herod greulon, yr hwn oedd in sychedu am ei waed ef. Fo ddarfu ir bŷd erlid Christ, cyn gynted ac y darfu iddo ei dderbyn. Mat. 2.13.