B03487:569
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Anwyl gyfeillion, a ydych chwi in wir Gristianogion? dangoswch chwithau eich bod trwy eich cyfodiad ach dyrchafiad. Rhoddwch eich search ar bethau uchod, ac nid ar bethau isod. Nôd llestri distryw, yw eu bod hwynt in synied pethau daiarol; Phil. 3.19.
Anwyl gyfeillion, a ydych chwi yn wir Gristianogion? dangoswch chwithau eich bod trwy eich cyfodiad ach dyrchafiad. Rhoddwch eich serch ar bethau uchod, ac nid ar bethau isod. Nôd llestri distryw, yw eu bod hwynt yn synied pethau daiarol; Phil. 3.19.
2. Y ddaw Christ i farnu 'r bid? dyscwn ninau,
2. Y ddaw Crist i farnu 'r byd? dyscwn ninau,
In gyntaf, Fyw, a gwneuthur, a dywedyd, megis rhai a ddisgwiliant eu barnu: Jag. 2.12. Meddwl di 'r hwn wit in llawenychu in nyddiau dy jevengtid, ac in rhodio in ol ford dy gallon dy hun, drwy gyflawni dy chwantau cnawdol, y daw did cyfri. Gwybydd y geilw Duw di ir farn am hyn ôll. Tydi, yr hwn wit in tyngu ac in rhegu, ac in gwneuthur pob math ar ddihirwch; A'i dyma 'r ford i fyw megys un a fernir? O pa fodd yr ymddangosi di o flaen cyfion Farnwr y nefoedd a'r ddaiar, i atteb am yr holl bethau hyn, neu am un o honynt.
Yn gyntaf, Fyw, a gwneuthur, a dywedyd, megis rhai a ddisgwiliant eu barnu: Jag. 2.12. Meddwl di 'r hwn wyt yn llawenychu yn nyddiau dy ieuengtid, ac yn rhodio yn ol ffordd dy galon dy hun, drwy gyflawni dy chwantau cnawdol, y daw dydd cyfri. Gwybydd y geilw Duw di ir farn am hyn ôll. Tydi, yr hwn wyt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn gwneuthur pob math ar ddihirwch; A'i dyma 'r ffordd i fyw megys un a fernir? O pa fodd yr ymddangosi di o flaen cyfion Farnwr y nefoedd a'r ddaiar, i atteb am yr holl bethau hyn, neu am un o honynt.