B03487:58
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Mae'n Eglur Fod Duw, wrth wneuthuriad nefoedd a daiar, a'r holl greaduriaid a'r sydd ynddynt: Y rhai ni allasent sith fod heb wneuthurwr Holl-alluog. Ac wrth doeth alluog lywodraethiad y býd; y sydd in dangos ini Dduwiol Ragluniaeth in tra-awdurdodi ⟨p. 9⟩ar y cwbl: Ac wrth gyffredinol gydsynniad, a chydwybod yr holl genhedloedd.
1. Mae'n Eglur Fod Duw, wrth wneuthuriad nefoedd a daiar, a'r holl greaduriaid a'r sydd ynddynt: Y rhai ni allasent fyth fod heb wneuthurwr Holl-alluog. Ac wrth ddoeth alluog lywodraethiad y býd; y sydd yn dangos ini Dduwiol Ragluniaeth yn tra-awdurdodi ⟨p. 9⟩ar y cwbl: Ac wrth gyffredinol gydsynniad, a chydwybod yr holl genhedloedd.
Cymmhwys. 1. Gan fod Duw, yna mae 'r dynion di-dduw anghredadwy iw argyoeddi in gyfiawn, o'r rhai y mae try math;
Cymmhwys. 1. Gan fod Duw, yna mae 'r dynion di-dduw anghredadwy iw argyoeddi yn gyfiawn, o'r rhai y mae tri math;
1. Rhai sydd ddynion di-dduw mewn opiniwn, gan feddwl in ysmala nad oes Duw. Wedi iddynt hwy ymroddi i gyflawni eu ffiaidd drachwantau, fell na rwystrer hwynt in y rhydd-did a• arferant i wneuthur pob math ar ddrygioni, ceisiant eu cymell eu hunain i dybied nad oes Duw. A thrwy gyfiawn farnedigaeth Duw arnynt, maent in fynych heb feddyliau na chrediniaeth am Dduw, a chwedi eu rhoddi i fynu i feddwl anghymeradwy, ac i gydwybod seriedig, yr hyn yw'r farn drymmaf a all ddigwydd i ddŷn yma.