B03487:591
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Trwy ein harg yoeddi ni o'n pechod a'n trueni, Joan. 16.8. hynny yw trwy wneuthur i bobl eu hadnabod eu hunain, eu bod in greaduriaid gresynol a phechadurus, ac mewn teimlad o hynny, lefain allan, Och fo ddarfu am danaf fi, enaid colledig. Gwae fi, pa fodd y gallaf fi ochel damnedigaeth uffern!
1. Trwy ein harg yoeddi ni o'n pechod a'n trueni, Joan. 16.8. hynny yw trwy wneuthur i bobl eu hadnabod eu hunain, eu bod yn greaduriaid gresynol a phechadurus, ac mewn teimlad o hynny, lefain allan, Och fo ddarfu am danaf fi, enaid colledig. Gwae fi, pa fodd y gallaf fi ochel damnedigaeth uffern!
2. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ein hargyoeddi ni o'n pechodau a'n trueni, in golevo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Jesus Grist. Dengis fell y mae ef in holl-alluog jachawdwr i ni, in abl i faddeu ein pechodau ni in hollawl, ac in barod i gofleidio pawb a'r y ddelont atto ef mewn purdeb calon.
2. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ein hargyoeddi ni o'n pechodau a'n trueni, yn goleuo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Jesu Grist. Dengis fel y mae ef yn holl-alluog iachawdwr i ni, yn abl i faddeu ein pechodau ni yn hollawl, ac yn barod i gofleidio pawb a'r y ddelont atto ef mewn purdeb calon.
3. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ef olevo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Grist, in adnewyddu ein ewyllys ni; hynny yw, y mae ef in gweithio y faith newidiad grasol ynom ni, ac a'n gwnelo in fodlon i ufyddhau i ewyllys Duw. Psal. 110.3.
3. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ef oleuo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Grist, yn adnewyddu ein ewyllys ni; hynny yw, y mae ef yn gweithio y fath newidiad grasol ynom ni, ac a'n gwnelo yn fodlon i vfyddhau i ewyllys Duw.