B03487:594
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
4. Y mae yspryd Duw, gwedi iddo newid ein ⟨p. 130⟩ewllys ni y mod yma, in ein hannog ni i gosleidio Jesus Grist, megys ein unig brynwr, a'n jachawdwr; hynny yw, trwy ei resymau dwysion ef, a'i daer wahoddion, y mae in ein tynnu ni at Jesus Grist.
4. Y mae yspryd Duw, gwedi iddo newid ein ⟨p. 130⟩ewllys ni y modd yma, yn ein hannog ni i gosleidio Jesu Grist, megys ein vnig brynwr, a'n iachawdwr; hynny yw, trwy ei resymau dwysion ef, a'i daer wahoddion, y mae yn ein tynnu ni at Jesu Grist.
Cymmwys. 1. Hola dy hun drwy 'r hyn a ddywedpwyd i wybod a alwed ti a'i peidio.
1. A argyhoeddwyd ti o bechod? A wnaeth Yspryd Duw iti wybod dy fod in bechadur truan a cholledig, a derbyn barn angeu ynot dy hun a llefain, och yr wyfi in din marwol, marwol mewn pechodau ac anwireddau, mae fy enaid i mewn cyflwr gresynol, ac os parhaf i ynddo, rhaid i mi fined in ddiammau i uffern? O resynol ddŷn wyfi, pwy am gweryd i? wit ti, neu a ddarfu ericed dy argyoeddi di y mod yma?
1. A argyhoeddwyd ti o bechod? A wnaeth Yspryd Duw iti wybod dy fod yn bechadur truan a cholledig, a derbyn barn angeu ynot dy hun a llefain, och yr wyfi yn ddyn marwol, marwol mewn pechodau ac anwireddau, mae fy enaid i mewn cyflwr gresynol, ac os parhaf i ynddo, rhaid i mi fyned yn ddiammau i vffern? O resynol ddŷn wyfi, pwy am gweryd i? wyt ti, neu a ddarfu ericed dy argyoeddi di y modd yma?