B03487:61
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Mae rhai in ddi-dduw ac in anghredadwy in eu dymuniadau; Erna lefasant rhag cywilydd y bid ddywedyd â'u genevau, nad oes Duw; Etto in eu calonnau y dymunant na bae un Duw i gymeryd dial ar eu hanwireddau. And gwybydded y cyfryw fod eu Dymuniadau hwynt i gyd in adnabyddus i Dduw, yr hwn ai geilw hwynt ryw did i roddi cyfrif am danynt.
2. Mae rhai yn ddi-dduw ac yn anghredadwy yn eu dymuniadau; Er na lefasant rhag cywilydd y byd ddywedyd â'u geneuau, nad oes Duw; Etto yn eu calonnau y dymunant na bae un Duw i gymeryd dial ar eu hanwireddau. Ond gwybydded y cyfryw fod eu Dymuniadau hwynt i gyd yn adnabyddus i Dduw, yr hwn ai geilw hwynt ryw ddydd i roddi cyfrif am danynt.
3. Rhai sydd ddi-dduw ac anghred-ddynion mewn buchedd, megis y mae 'r annuwiol drygionus oll, y rhai in eu dealldwriaethau a gydnabyddant fod Duw, and gwadant ef in eu gweithredoedd, gan fyw megis na bay na Duw, na nef, nac uffern; o'r rhifedi hwn y mae,
3. Rhai sydd ddi-dduw ac anghred-ddynion mewn buchedd, megis y mae 'r annuwiol drygionus oll, y rhai yn eu dealldwriaethau a gydnabyddant fod Duw, ond gwadant ef yn eu gweithredoedd, gan fyw megis na bai na Duw, na nef, nac uffern; o'r rhifedi hwn y mae,
In gyntaf, y rhai sydd in eu hyfrydu eu hunain wrth feddwl am ffieidd-dra ac aflendid, ac in ymfendithio ynddynt. Yr hyn sy'n profi fod anghrediniaeth ddirgel in llechu in eu calonnau hwynt, heb ystyried fod Duw in gwybod pob peth. Dealled y cyfryw fod ⟨p. 10⟩dirgel feddyliau eu calonnau hwy mor adnabyddus i Dduw, a'u gweichthedoedd oddiallan. Deelli fy meddwl o bell, Ti a feddiennaist fy arennau, medd Dafydd.