B03487:623
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Craffwn ar ryfeddol gariad Duw a amlygir in y pethau hyn.
Craffwn ar ryfeddol gariad Duw a amlygir yn y pethau hyn.
In gyntaf, y mae efe in cymeryd oddiwrthym ni yr hyn sydd wir eiddom ni, self ⟨p. 134⟩e in pechodau, o ran eu bod in ein gwneuthur ni in druenus, a hwy […] esyd efe ar ei Fâb, yr hwn a wnawd in bechod drosom ni. 2 Cor. 5.21.
Yn gyntaf, y mae efe yn cymeryd oddiwrthym ni yr hyn sydd wir eiddom ni, sef ⟨p. 134⟩e in pechodau, o ran eu bod yn ein gwneuthur ni yn druenus, a hwy 〈…〉 esyd efe ar ei Fâb, yr hwn a wnawd yn bechod drosom ni. 2 Cor. 5.21.
In ail, y mae efe in cyfrif cyfiawnder Christ in eiddom ni, er nad yw o honom ni, o herwydd nas gallwn fod in ddedwydd hebddo. Y mae Duw in cyfrif cyfiawnder Christ i'r ffyddloniaid, megis pe buasai in eiddynt hwy. Y mae efe in eu gwneuthur hwy in gyfrannogion o rinwedd yr jawn a dalodd Christ, ac o'r pethau chwerwon a ddioddefodd efe, megis pe buasent hwy in ei dalu ac in eu dioddef.
Yn ail, y mae efe yn cyfrif cyfiawnder Christ yn eiddom ni, er nad yw o honom ni, o herwydd nas gallwn fod yn ddedwydd hebddo. Y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder Christ i'r ffyddloniaid, megis pe buasai yn eiddynt hwy. Y mae efe yn eu gwneuthur hwy yn gyfrannogion o rinwedd yr iawn a dalodd Christ, ac o'r pethau chwerwon a ddioddefodd efe, megis pe buasent hwy yn ei dalu ac yn eu dioddef.