B03487:625
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In ail, y mae efe in cyfrif cyfiawnder Christ in eiddom ni, er nad yw o honom ni, o herwydd nas gallwn fod in ddedwydd hebddo. Y mae Duw in cyfrif cyfiawnder Christ i'r ffyddloniaid, megis pe buasai in eiddynt hwy. Y mae efe in eu gwneuthur hwy in gyfrannogion o rinwedd yr jawn a dalodd Christ, ac o'r pethau chwerwon a ddioddefodd efe, megis pe buasent hwy in ei dalu ac in eu dioddef.
Yn ail, y mae efe yn cyfrif cyfiawnder Christ yn eiddom ni, er nad yw o honom ni, o herwydd nas gallwn fod yn ddedwydd hebddo. Y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder Christ i'r ffyddloniaid, megis pe buasai yn eiddynt hwy. Y mae efe yn eu gwneuthur hwy yn gyfrannogion o rinwedd yr iawn a dalodd Christ, ac o'r pethau chwerwon a ddioddefodd efe, megis pe buasent hwy yn ei dalu ac yn eu dioddef.
Nid yw reidiol i Dduw dybied ir etholedigion eu hunain wneuthur y peth a wnaeth Christ drostynt hwy, eithr digonol tuag at eu cyfiawnhâd hwy yw iddo ef dderbyn yr hyn a wnaeth eu machniudd hwy drostynt, gan gydnabod ei fod in gymaint mewn haeddiant a thâl a'r peth a ddylasent hwy eu hunain ei wneuthur.
Nid yw reidiol i Dduw dybied ir etholedigion eu hunain wneuthur y peth a wnaeth Christ drostynt hwy, eithr digonol tuag at eu cyfiawnhâd hwy yw iddo ef dderbyn yr hyn a wnaeth eu machniudd hwy drostynt, gan gydnabod ei fod yn gymaint mewn haeddiant a thâl a'r peth a ddylasent hwy eu hunain ei wneuthur.
Cymmwys. Erna chyfiawnheir ni drwy ein gweithredoedd ein hunain, and er mwyn yr i•wn cyflawn a dalodd Christ drosom ni, a'i gyfiawnder perffaith ef, etto heb gyfiawnder cywir ynom ein hunain, ac o'r eiddom ein hunain, nid allwn ni gael eglurhâd o'n cyfiawnhâd, na gobaith siccr o'n jechydwriaeth: Canys heb sinct•iddrwydd ni chaiff neb welled yr Arglwydd.