B03487:65
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In drydydd, y rhai a fynych Esceulusant ddyledswyddau sanctaidd. Megis darllen yr yscrythyrau, gweddio in y dirgel, ac in eu teuluoedd, a'r cyffelyb. Er iddynt wybod a chydnabod eu bod in ddyledswyddau gorchymynnedig gan Dduw in ei air, a chanmoledig gan esamplau gwyr duwiol, etto lawyer a'u esceulusant, yr hyn fy'n tarddu oddiwrth anghrediniaeth gweithredol.
Yn drydydd, y rhai a fynych Esceulusant ddyledswyddau sanctaidd. Megis darllen yr yscrythyrau, gweddio yn y dirgel, ac yn eu teuluoedd, a'r cyffelyb. Er iddynt wybod a chydnabod eu bod yn ddyledswyddau gorchymynnedig gan Dduw yn ei air, a chanmoledig gan esamplau gwyr duwiol, etto llawer a'u esceulusant, yr hyn fy'n tarddu oddiwrth anghrediniaeth gweithredol.
In bedwerydd, y rhai er iddynt ymddangos o'u bod in gwneuthur cydwybod o gyflawni dyledswyddau duwiol in gyhoeddus ac in ddirgel, etto y maent in hollhawl ddiofal am y mod y cyflawnant bwynt: gan weddio megis na baent in gweddio, •a gwrando megis na baent ⟨p. 11⟩in gwrando, drwy 'r hyn y maent in dangos dirgel angrhediniaeth eu calonnau. Canys ped faent in gwir gredu holl-wybodus bresennoldeb Duw, ei fod ef in chwiliwr calonnau, in gwybod oddiwrth bob meddwl crwydraidd mewn gweddiau, a dyledswyddau eraill, nid allent ymfodloni cymaint wrth wneuthur y rhan oddiallan i ddyledswyddau duwiol.
Yn bedwerydd, y rhai er iddynt ymddangos o'u bod yn gwneuthur cydwybod o gyflawni dyledswyddau duwiol yn gyhoeddus ac yn ddirgel, etto y maent yn hollhawl ddiofal am y modd y cyflawnant bwynt: gan weddio megis na baent yn gweddio, •a gwrando megis na baent ⟨p. 11⟩yn gwrando, drwy 'r hyn y maent yn dangos dirgel angrhediniaeth eu calonnau. Canys ped faent yn gwir gredu holl-wybodus bresennoldeb Duw, ei fod ef yn chwiliwr calonnau, yn gwybod oddiwrth bob meddwl crwydraidd mewn gweddiau, a dyledswyddau eraill, nid allent ymfodloni cymaint wrth wneuthur y rhan oddiallan i ddyledswyddau duwiol.