B03487:659
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y moda ein sancteiddir yw drwy adnewyddiad yr yspryd. Er deal hyn in well rhaid ini wybod, ein gwneuthur ni in aelodau o ddirgel gorph Christ, pan ymunom ag ef drwy ⟨p. 138⟩ffydd, ac ar hynny yr ydym gyfrannogion o fudd ei farwolaeth ef a'i adgyfodiad. Drwy rinwedd ei farwolaeth ef y marweiddir ein pechodau ni, a chroeshoelir ein llygredigaeth ni gyd ag ef. A thrwy rinwedd ei adgyfodiad ef y rhoddir gallu bywiol ynom ni, i'n cyfodi o bechod, fell yr arweiniom fuchedd sanctaidd. Ac felly y deuwn i fod in ddynion sanctaidd wedi ein adnewyddu gan yspryd Duw.
Y moda ein sancteiddir yw drwy adnewyddiad yr yspryd. Er deall hyn yn well rhaid ini wybod, ein gwneuthur ni yn aelodau o ddirgel gorph Christ, pan ymunom ag ef drwy ⟨p. 138⟩ffydd, ac ar hynny yr ydym gyfrannogion o fudd ei farwolaeth ef a'i adgyfodiad. Drwy rinwedd ei farwolaeth ef y marweiddir ein pechodau ni, a chroeshoelir ein llygredigaeth ni gyd ag ef. A thrwy rinwedd ei adgyfodiad ef y rhoddir gallu bywiol ynom ni, i'n cyfodi o bechod, fel yr arweiniom fuchedd sanctaidd. Ac felly y deuwn i fod yn ddynion sanctaidd wedi ein adnewyddu gan yspryd Duw.
Gelwir y saint in yr yscrythyrau in Greaduriaid newydd, nid o ran newid sylwedd eu heneidiau a'u cyrph, onid o ran gweithio ynddynt foddion a rhinweddau newyddion. Bid y deal tywyll wedi ei olevo mewn peth mesur â gwybodaeth o Dduw ac Jesus Grist. A bid yr ewyllys, ydoedd o'r blaen in wrthwynebus i Dduw, in awr in ufydd iw ewyllis ef. Ac in awr gosodir y search ar Dduw, er iddi o'r blaen fod ar bethau aflesol: a bid din in ffieiddio'r peth yr oedd efe o'r blaen in ei hoffi, ac in hoffi'r peth yr oedd efe o'r blaen in ei ffieiddio. A bid in llawenychu ynGhrist, fell yr oedd efe o'r blaen in llawenychu in y creaduriaid. Y dymuniad ydoedd am olud budol ac hyfrydwch cnawdol, a fydd in awr am lewyrch wyneb Duw, a siccrwydd o'i gariad ef. Fell hyn drwy sancteiddiad y gwneir un in din arall.