B03487:661
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae sancteiddiad in mined drwy'r holl din, drwy holl gynneddfau 'r enaid ac aelodau 'r Corph. Bid yr ymarweddiad oddiallan yngwrthwyneb ir peth ydoedd o'r blaen. Bid yspryd sanctaidd in gweithio oddifewn, ac in anadlu allan mewn ymadroddion a gweithredoedd grasol.
Y mae sancteiddiad yn myned drwy'r holl ddyn, drwy holl gynneddfau 'r enaid ac aelodau 'r Corph. Bydd yr ymarweddiad oddiallan yngwrthwyneb ir peth ydoedd o'r blaen. Bydd yspryd sanctaidd yn gweithio oddifewn, ac yn anadlu allan mewn ymadroddion a gweithredoedd grasol.
And er adnewyddu dŷn ym mhob rhan, ⟨p. 139⟩nid yw efe in ddiddiffig in ei sancteiddiad.
Ond er adnewyddu dŷn ym mhob rhan, ⟨p. 139⟩nid yw efe yn ddiddiffig yn ei sancteiddiad.
Canys y mae grâs in dechreu in isel, ac in cyfodi in uwch beunydd: er ei fod ym mhob rhan, nid yw gwbl berffaith ynddynt, hid oni newidier bŷd. 1. Cor. 13.10. Pan ddelyr bin sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddelevir.
Canys y mae grâs yn dechreu yn isel, ac yn cyfodi yn uwch beunydd: er ei fod ym mhob rhan, nid yw gwbl berffaith ynddynt, hyd oni newidier bŷd. 1. Cor. 13.10. Pan ddelyr byn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir.