B03487:691
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mi a wn fod lawyer in cwyno nad ydynt in cynnyddu mewn grâs, •nd eu bod in sefyll, neu in mined in ol. Cymmer offal rhag bod felly, canys hynny sydd beryglus. ystyria hefyd,
Mi a wn fod llawer yn cwyno nad ydynt yn cynnyddu mewn grâs, •nd eu bod yn sefyll, neu yn myned yn ol. Cymmer ofal rhag bod felly, canys hynny sydd beryglus. ystyria hefyd,
Y gall un gynnyddu mewn grás er nas dirnado hynny: am fod twf ysprydol in codi o fesur ychydic ac ychydic mewn môdd anheimladwy.
Y gall un gynnyddu mewn grás er nas dirnado hynny: am fod twf ysprydol yn codi o fesur ychydic ac ychydic mewn môdd anheimladwy.
Ac nad yw pobl bob amser in medru barnu eu cyflwr eu bunain in jawn. Weithiau tybiant in rhy dda am danynt eu hunain. Amseroedd eraill, pan dell profedigaeth a chystudd yspryd arnynt, tybiant eu cyflwr in waeth nag yw mewn gwirionedd. A hyn a ddigwydd mewn rhan, Oddiwrth eu tlodi ysprydol, a wna iddynt feddwl in wael o honynt eu hunain, ac o'r hyn a fyddo ynddynt o ddaioni. Ac mewn rhan, oddiwrth y taer ddymuniad sydd ynddynt am ychwaneg o râs. Megis y mae mawr chwant i olud in peri i ⟨p. 145⟩ray eu tybied eu hunain in dlodion, pan fo ganddynt ddigon: Felly y mae dymuniad am râs in y duwiol in eu rhwystro i gydnabod â chymaint ac sydd ynddynt. Gan fod hiraeth am y perffeithrwydd a fydd, in eu gwneuthur in rhy anghofus o'r hyn fydd ar eu helw in barod.
Ac nad yw pobl bob amser yn medru barnu eu cyflwr eu bunain yn iawn. Weithiau tybiant yn rhy dda am danynt eu hunain. Amseroedd eraill, pan ddel profedigaeth a chystudd yspryd arnynt, tybiant eu cyflwr yn waeth nag yw mewn gwirionedd. A hyn a ddigwydd mewn rhan, Oddiwrth eu tlodi ysprydol, a wna iddynt feddwl yn wael o honynt eu hunain, ac o'r hyn a fyddo ynddynt o ddaioni. Ac mewn rhan, oddiwrth y taer ddymuniad sydd ynddynt am ychwaneg o râs. Megis y mae mawr chwant i olud yn peri i