B03487:719
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Rhoddais i lawr fod ffydd in derbyn Christ in ei holl swyddau, i rybuddio pobl rhag iddynt in gnawdol gamarfer yr athrawiaeth hon. Ac hefyd i ddangos y gwirionedd ir rhai a dybiant ein bod ni in dyscu nad yw ffydd ddim amgenach, na rhoi ein goglud a'n pwys ar Grist am jechydwriaeth; Lle 'r ydym ni in dal allan ei bod hi in derbyn Christ in ei holl swyddau; ac in peri i'r enaid ymostwng i gyfreithiau a rheolaeth Christ, a bod mor ewyllyscar iw wasanaethu ef, ac i gael jechydwriaeth drwyddo ef. Canys pura efe y rhai y mae in eu hachub; drwy ordinhâd Duw efe a wnaethpwyd in Awdwr jechydwriaeth dragywyddol ir rhai oll a ufyddhant iddo. Ac ir rheini in unic. Heb. 5.9.
Rhoddais i lawr fod ffydd yn derbyn Christ yn ei holl swyddau, i rybuddio pobl rhag iddynt yn gnawdol gamarfer yr athrawiaeth hon. Ac hefyd i ddangos y gwirionedd ir rhai a dybiant ein bod ni yn dyscu nad yw ffydd ddim amgenach, na rhoi ein goglud a'n pwys ar Grist am iechydwriaeth; Lle 'r ydym ni yn dal allan ei bod hi yn derbyn Christ yn ei holl swyddau; ac yn peri i'r enaid ymostwng i gyfreithiau a rheolaeth Christ, a bod mor ewyllyscar iw wasanaethu ef, ac i gael iechydwriaeth drwyddo ef. Canys pura efe y rhai y mae yn eu hachub; drwy ordinhâd Duw efe a wnaethpwyd yn Awdwr iechydwriaeth dragywyddol ir rhai oll a ufyddhant iddo. Ac ir rheini yn vnic. Heb. 5.9.
Er bod ymddadlau ynghylch rhai amgylchiadau perthynol ir pynciau hyn, etto nid wyfi in ewyllysio rhoddi ar lawr yma onid y gwirioneddau y mae pawb in eu cydnabod, self bod ffydd jachusol in derbyn Christ, in ei holl swyddau, Offeiriadol, prophwydol, a Brenhinol. Ac o disgwiliwn jechydwriaeth oddiwrth Grist, rhaid i ni gymeryd ei jan ef arnom, ac ufyddhau iw orchymynnion ef.
Er bod ymddadlau ynghylch rhai amgylchiadau perthynol ir pynciau hyn, etto nid wyfi yn ewyllysio rhoddi ar lawr yma onid y gwirioneddau y mae pawb yn eu cydnabod, sef bod ffydd iachusol yn derbyn Christ, yn ei holl swyddau, Offeiriadol, prophwydol, a Brenhinol. Ac o disgwiliwn iechydwriaeth oddiwrth Grist, rhaid i ni gymeryd ei ian ef arnom, ac ufyddhau iw orchymynnion ef.