B03487:721
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ail weithrediad ffydd jachusol, yw gorphywys ⟨p. 150⟩a rhoi goglud ar Grist in unic am icchydwriaeth. Mynegir hyn in yr yscrythyrau drwy ymadroddion eraill, megis drwy obeithio in Nuw. Job 13.15. A gobeithio in-Ghrist. Ephes. 1.12. A rhoi pwys ar yr Arglwydd. 2 Cron. 16.8. A phwyso ar yr anwylyd. Cant. 8.5. Pwy yw hon sydd in dyfod i fynu o'r anialwch (self anialwch anwybodaeth ac anghyssur) ac in pwyso ar ei hanwylyd. Yr hyn sy'n arwyddoccau fod y wir Eglwys in gorphywys ar Grist, megis sylsaen ei gobaith, am faddevant ei phechodau yma, ac am dragywyddol jechydwriaeth in ol hyn.
Ail weithrediad ffydd iachusol, yw gorphywys ⟨p. 150⟩a rhoi goglud ar Grist yn vnic am icchydwriaeth. Mynegir hyn yn yr yscrythyrau drwy ymadroddion eraill, megis drwy obeithio yn Nuw. Job 13.15. A gobeithio yn-Ghrist. Ephes. 1.12. A rhoi pwys ar yr Arglwydd. 2 Cron. 16.8. A phwyso ar yr anwylyd. Cant. 8.5. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fynu o'r anialwch (sef anialwch anwybodaeth ac anghyssur) ac yn pwyso ar ei hanwylyd. Yr hyn sy'n arwyddoccau fod y wir Eglwys yn gorphywys ar Grist, megis sylsaen ei gobaith, am faddeuant ei phechodau yma, ac am dragywyddol iechydwriaeth yn ol hyn.
Dywedir ym mhellach fod ffydd in gorphywys ar Grist in V N I G am jechydwriaeth: Nid ar neb arall heb ei law ef, na chydag ef, and arno ef in unic. Pan fyddo 'r enaid in deimladwy o'i chyflwr pechadurus a thruenus, heb obaith cynnorthwy ynddi ei hun, ac in synnied yr hyn a glywodd am allu Christ i fod in Jachawdwr, ac am ei ewyllyscarwch ef i dderbyn pob pechadur edifeiriol a ymddiriedo iddo ef, ac ar hynny in ymroddi iddo ef i orphywys in holl-hawl ar ei haeddedigaethau ef, gan ddywedyd, os derfydd am danafi, trengaf in ei freichiau ef, os achub fi mi ai moliannaf ef.