B03487:725
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, Ystyriwn yr annogaethau a rods Christ i bobl i gredn ynddo ef, ac i ddyfod atto ef, Canys efe a ddescynnodd o'r nef ir ⟨p. 151⟩ddaiar in bwrpasol i achub y sawl a ddevai at Dduw drwyddo ef.
Yn gyntaf, Ystyriwn yr annogaethau a roddes Christ i bobl i gredn ynddo ef, ac i ddyfod atto ef, Canys efe a ddescynnodd o'r nef ir ⟨p. 151⟩ddaiar yn bwrpasol i achub y sawl a ddeuai at Dduw drwyddo ef.
A phan oedd ef ar y ddaiar, ni wrthododd efe neb a ddaeth atto ef i gael jachau eu doluriau corphorol; er bod ei neges ef in y bŷd i jachau eneidiau, in fwy na chyrph. Ni ddylem ni ynteu dybied y gwrthid ef neb a ddelo atto ef am jechydwriaeth eu heneidiau. Nid aeth neb er joed atto ef â chalon gywir heb gael ei dderbyn. Medd ef in Joan. 6.37. Yr hwn a ddêl attafi, nis bwriaf ef allan ddim.
A phan oedd ef ar y ddaiar, ni wrthododd efe neb a ddaeth atto ef i gael iachau eu doluriau corphorol; er bod ei neges ef yn y bŷd i iachau eneidiau, yn fwy na chyrph. Ni ddylem ni ynteu dybied y gwrthid ef neb a ddelo atto ef am iechydwriaeth eu heneidiau. Nid aeth neb er ioed atto ef â chalon gywir heb gael ei dderbyn. Medd ef yn Joan. 6.37. Yr hwn a ddêl attafi, nis bwriaf ef allan ddim.
Y mae Duw in gorchymyn ini gredu in ei Fâb ef Jesus Grist. I Joan. 3.23. Hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom in enw ei Fâb ef Jesus Grist. Dylai orchymyn Duw fined in drech in ein meddyliau ni na holl rwystrau Satan, neu resymmau cnawdol ac amhevon ein calonnau ein hunain.