B03487:727
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y mae Duw in gorchymyn ini gredu in ei Fâb ef Jesus Grist. I Joan. 3.23. Hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom in enw ei Fâb ef Jesus Grist. Dylai orchymyn Duw fined in drech in ein meddyliau ni na holl rwystrau Satan, neu resymmau cnawdol ac amhevon ein calonnau ein hunain.
Y mae Duw yn gorchymyn ini gredu yn ei Fâb ef Jesu Grist. I Joan. 3.23. Hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom yn enw ei Fâb ef Jesu Grist. Dylai orchymyn Duw fyned yn drech yn ein meddyliau ni na holl rwystrau Satan, neu resymmau cnawdol ac amheuon ein calonnau ein hunain.
Y mae Christ in amlygu ei ewyllyscarwch i dderbyn pob pechadur edifeiriol a dell atto ef, ac ai bwriant eu hunain trwy ffydd iw freichiau ef.
Y mae Christ yn amlygu ei ewyllyscarwch i dderbyn pob pechadur edifeiriol a ddel atto ef, ac ai bwriant eu hunain trwy ffydd iw freichiau ef.
Canys y mae efe in gwahadd atto bob pechadur ac sydd deimladwy o'i anwireddau, ac in deisyf bod in gysrannog o lesâd ei brynedigaeth ef. Math. 11.28. Joan. 3.37. Datc. 22.17. Ac at wahodd chwanegir cry i'n deffroi ni. Isaiah 55.1. Oh deuwch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno, je yr hwn nid oes arian ganddo, dim daioni na chyfiawnder o'r eiddo ei hun, deuwch, &c.
Canys y mae efe yn gwahadd atto bob pechadur ac sydd deimladwy o'i anwireddau, ac yn deisyf bod yn gysrannog o lesâd ei brynedigaeth ef. Math. 11.28. Joan. 3.37. Datc. 22.17. Ac at wahodd chwanegir cri i'n deffroi ni. Esay 55.1. Oh deuwch i'r dyfroedd bob vn y mae syched arno, ie yr hwn nid oes arian ganddo, dim daioni na chyfiawnder o'r eiddo ei hun, deuwch, &c.