B03487:829
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Fell y gwrandawer y Gair in fuddiol, rhaid ei drîn a dal arno in ddyfal. Dywedir am Lydia, ir Arglwydd agoryd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. Act. 16.14. Oni bid i'n meddyliau graffu ar y gair, nid allwn ni moi deal ef, a pha fodd yr adeiledir ni gan y peth ni ddeallwn?
II. Fel y gwrandawer y Gair yn fuddiol, rhaid ei drîn a dal arno yn ddyfal. Dywedir am Lydia, ir Arglwydd agoryd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. Act. 16.14. Oni bydd i'n meddyliau graffu ar y gair, nid allwn ni moi ddeall ef, a pha fodd yr adeiledir ni gan y peth ni ddeallwn?
Ac er mwyn gwrando in ddyfal rhaid ini wilied in ofalus rhag try pheth, a'i gochelyd in ddichlyn.
Ac er mwyn gwrando yn ddyfal rhaid ini wilied yn ofalus rhag tri pheth, a'i gochelyd yn ddichlyn.
Y cyntaf yw meddyliau gwibiog, in rhedeg ar achosion cnawdol a bydol. Yr ail yw golugon treigl, in craffu gormod ar amryw bethau oddiamgylch. Y trydydd yw cwsc swrth ar amser yr ordinhâd.
Y cyntaf yw meddyliau gwibiog, yn rhedeg ar achosion cnawdol a bydol. Yr ail yw golugon treigl, yn craffu gormod ar amryw bethau oddiamgylch. Y trydydd yw cwsc swrth ar amser yr ordinhâd.