B03487:844
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 44. Pa fodd y mae 'r sacramentau in hyfforddi ein jechydwriaeth?
Gof. 44. Pa fodd y mae 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth?
Atteb. Y mae 'r sacramentau in hyfforddi ein jechydwriaeth ni wrth ini eu derbyn hwy drwy ffydd.
Atteb. Y mae 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth ni wrth ini eu derbyn hwy drwy ffydd.
Eglurhâd. Er amlygu yr atteb hwn in well, dangosaf i chwi pa fodd nid yw 'r sacramentau in hyfforddi ein jechydwriaeth ni, a pha fodd y maent.
Eglurhâd. Er amlygu yr atteb hwn yn well, dangosaf i chwi pa fodd nid yw 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth ni, a pha fodd y maent.
Nid ydynt in gweithio trwy rinwedd ynddynt. Canys nid ydynt in gallu o honynt eu hunain berry grâs i neb ex opere operato, o waith eu gwneuthur, nac ex dignitate operantis, O haeddiant y gwenidog a fo in eu cyfrannu. Canys y mae ammherffeithrwydd ynddo. Fall nad yw rhagrithiol ddrygioni rhyw wenidog in diddymu 'r sacrament ir derbyniwr grasol diragrith, felly nid yw duwioldeb gwenidog ffyddlon in gwneuthur y sacrament in llesol i dderbyniwr anhilwng,