B03487:946
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eglurh. Yr enw mwyaf arferol a roddir iddo yw Swpper yr Arglwydd.
In gyntaf, fo'i gelwir in swpper o herwydd ei ryw, am fod y Sacrament hwn in faith ar wlêdd, ac y mae 'r yscrythur in rhoddi ini ysbysrwydd y byddid in gwledda tua 'r hŵyr wedi darfod trafferthion y diwrnod, in fynych ar swpper y byddai 'r wlêdd Luc. 14.16. Joan. 12.2. Datc. 3.20.
Yn gyntaf, fo'i gelwir yn swpper o herwydd ei ryw, am fod y Sacrament hwn yn fath ar wlêdd, ac y mae 'r yscrythur yn rhoddi ini ysbysrwydd y byddid yn gwledda tua 'r hŵyr wedi darfod trafferthion y diwrnod, yn fynych ar swpper y byddai 'r wlêdd Luc. 14.16. Joan. 12.2. Datc. 3.20.
Y swpper ar yr hwn yr ordeiniodd ein Achubwr y Sacrament hwn, oedd y prŷd olaf a gymerth efe o flaen ei farwolaeth, Math. 26.29. O herwydd hynny gelwir ef in swpper er coffadwriaeth o'r môdd a'r amser y gorchymynwyd ef.
Y swpper ar yr hwn yr ordeiniodd ein Achubwr y Sacrament hwn, oedd y prŷd olaf a gymerth efe o flaen ei farwolaeth, Math. 26.29. O herwydd hynny gelwir ef yn swpper er coffadwriaeth o'r môdd a'r amser y gorchymynwyd ef.