B03487:994
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag…Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag…
Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deal a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.Gwyddorion y grefydd Gristianogol, wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1679Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1679
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, edryched at y gwybodaeth a fo ynddo i ddirnad corph yr Arglwydd, megis y gosodir ef allan ini drwy 'r elfennau o fara a gwin. Canys yr hwn nid yw in jawn farn• corph yr Arglwydd, sydd in bwytta, ac in yfed in anheilwng, je y mae efe in bwytta ac in yfed barnedigaeth iddo ei hun. 1. Cor. 11.29. Am hynny mae mawr achos ini i edrych pa faith wybodaeth a fo cennym ynghylch priffannau 'n crefydd, ac ynghylch athrawiaeth y Sacrament: self ei bod gwedi ei hordeinio gan Grist ei hun, a hynny i fod in goffadwriaeth gwastadol o'i fawr gariad ef in offrwm ei fywyd in aberth dross ein pechodau ni, ac in sêl o gyfammod y grâs. Mai 'r arwyddion gweledig yw bara a gwin, bara wedi ei dory, a gwîn wedi ei dywallt, y rhai sydd in yspysu mi am gorph a gwaed Christ gydâ ei holl ddioddefiadau chwerwon ⟨p. 200⟩er mwyn ein prynedigaeth ni. Fod pob cymmunwr teilwng in gwir dderbyn Christ drwy ffydd gyd â llesâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint. Rheidiol yw gwybodaeth am y pethau hyn, o herwydd nas gallwn hebddi jawn ddirnad corph yr Arglwydd.
Yn gyntaf, edryched at y gwybodaeth a fo ynddo i ddirnad corph yr Arglwydd, megis y gosodir ef allan ini drwy 'r elfennau o fara a gwin. Canys yr hwn nid yw yn iawn farn• corph yr Arglwydd, sydd yn bwytta, ac yn yfed yn anheilwng, ie y mae efe yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun. 1. Cor. 11.29. Am hynny mae mawr achos ini i edrych pa fath wybodaeth a fo cennym ynghylch priffannau 'n crefydd, ac ynghylch athrawiaeth y Sacrament: sef ei bod gwedi ei hordeinio gan Grist ei hun, a hynny i fod yn goffadwriaeth gwastadol o'i fawr gariad ef yn offrwm ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, ac yn sêl o gyfammod y grâs. Mai 'r arwyddion gweledig yw bara a gwin, bara wedi ei dorri, a gwîn wedi ei dywallt, y rhai sydd yn yspysu mi am gorph a gwaed Christ gydâ ei holl ddioddefiadau chwerwon ⟨p. 200⟩er mwyn ein prynedigaeth ni. Fod pob cymmunwr teilwng yn gwir dderbyn Christ drwy ffydd gyd â llesâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint. Rheidiol yw gwybodaeth am y pethau hyn, o herwydd nas gallwn hebddi iawn ddirnad corph yr Arglwydd.