Esponiad byrr o'r X. Gorchymmyn.
pp. 28–39247 passagespart 1 of 7
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
pp. 28–39247 passagespart 1 of 7
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Pob mâth a'r Ddledswyddau sydd ddyledus arnom i Dduw neu ddŷn.
Y mae y pedwar Gorchymmyn cyntaf, a Scrifennwyd a'r un o'r llechau, in cynnwys ein D'lêd tu ag at Dduw: a'r chwêch eraill, a scrifennwyd a'r y Llêch arall, in cynnwys ein D'lêd tuag at Ddŷn. Mat. 22. 37, 38, 39.
Y mae y pedwar Gorchymmyn cyntaf, a Scrifennwyd a'r un o'r llechau, yn cynnwys ein D'lêd tu ag at Dduw: a'r chwêch eraill, a scrifennwyd a'r y Llêch arall, yn cynnwys ein D'lêd tuag at Ddŷn. Mat. 22. 37, 38, 39.
Cwest.
Pa bethau en wedigol a ellir eu ystyried in y Dêg Gorchymmyn?
Pa bethau en wedigol a ellir eu ystyried yn y Dêg Gorchymmyn?
Atteb.
1. Y Rhagymadrodd.
2. Y Gorchmynnion eu hunain.
Cwest.
Ym mha eiriau y gosodir allan y Rhagymadrodd i'r Dêg Gorchymmyn?
Atteb.
In y rhai hyn, Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di allan o wlâd yr Aipht, o dŷ y caethiwed. Exod. 20. 2.
Yn y rhai hyn, Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di allan o wlâd yr Aipht, o dŷ y caethiwed. Exod. 20. 2.
Cwest.
Beth a ddywed Duw am dano ei hun in y geiriau hyn?
Beth a ddywed Duw am dano ei hun yn y geiriau hyn?
Atteb.
Mae Duw in y geiriau hyn in dangos, ei fod of ei hun in Brif-ben Arglwydd yr holl Fŷd, ac hefyd in Dduw mewn Cyfammod, fell gynt ag Israel, felly yr awron a'i holl bobl. Fell y gwaredodd ef yr Israeliaid o'u caethiwed in yr Aipht, felly y gwared ninnau o'n caethiwed Ysprydol tan y Pechod, Satan a'r Bŷd: ac am hynny yr ydym in rhwym iw gymeryd ef in Dduw ini; ac i gadw ei holl Orch'mynion.
Mae Duw yn y geiriau hyn yn dangos, ei fod of ei hun yn Brif-ben Arglwydd yr holl Fŷd, ac hefyd yn Dduw mewn Cyfammod, fel gynt ag Israel, felly yr awron a'i holl bobl. Fel y gwaredodd ef yr Israeliaid o'u caethiwed yn yr Aipht, felly y gwared ninnau o'n caethiwed Ysprydol tan y Pechod, Satan a'r Bŷd: ac am hynny yr ydym yn rhwym iw gymeryd ef yn Dduw ini; ac i gadw ei holl Orch'mynion.
Cwest.
Pan yw 'r Gorchymmyn cyntaf?
Pa un yw 'r Gorchymmyn cyntaf?
Atteb.
Na fydded it Dduwiau eraill ger fy mron i.
Cwest.
Pa bethau a ofynnir in y Gorchymmyn hwn?
Pa bethau a ofynnir yn y Gorchymmyn hwn?
Atteb.
Inni adnabod a chydnabod Duw in unig wîr Dduw, ac ini ei gymeryd ef ya Dduw ini, a'i ddewis ef uwchlaw pawb.
Inni adnabod a chydnabod Duw yn unig wîr Dduw, ac ini ei gymeryd ef ya Dduw ini, a'i ddewis ef uwchlaw pawb.
Nid digon ini Broffessu y gwîr Dduw, and rhaid ini ei gymeryd ef in Dduw ini. Canys bôd Duw gennym ydyw, in ein Meddwl a'n Deal ei adnabod a'i gydnabod ef in unig wîr Dduw, Holl-ddigonol, Holl-alluog, Anfeidrol ym mhob mâth o Berffeithrwydd; felly hefyd in ein Calonnau a'n hanwydau glynu wrtho ef, gan lawn-fwriadu ein cyssegru ein hunain in hollawl iw Addoliad a'i wasanaeth ef, ac hid yr eithaf o'n gallu rhyngu bodd iddo ef ym mhob peth, trwy gydffurfio ein bucheddau ym mhob ufudd-dod Sanctaidd iw ewyllys datcuddiedig ef.
Nid digon ini Broffessu y gwîr Dduw, ond rhaid ini ei gymeryd ef yn Dduw ini. Canys bôd Duw gennym ydyw, yn ein Meddwl a'n Deall ei adnabod a'i gydnabod ef yn unig wîr Dduw, Holl-ddigonol, Holl-alluog, Anfeidrol ym mhob mâth o Berffeithrwydd; felly hefyd yn ein Calonnau a'n hanwydau glynu wrtho ef, gan lawn-fwriadu ein cyssegru ein hunain yn hollawl iw Addoliad a'i wasanaeth ef, ac hyd yr eithaf o'n gallu rhyngu bodd iddo ef ym mhob peth, trwy gydffurfio ein bucheddau ym mhob ufudd-dod Sanctaidd iw ewyllys datcuddiedig ef.
Cwest.
Pa bethau a warafunir in y Gorchymmyn hwn?
Pa bethau a warafunir yn y Gorchymmyn hwn?
Atteb.
1. Bod heb adnabod neu gydnabod neb rhyw Dduw, yr hyn sydd Anghrediniaeth di-Dduw.
2. Bod in addoli gau in lle y gwîr Dduw, yr hyn sydd Ddelw-addoliaeth.
2. Bod yn addoli gau yn lle y gwîr Dduw, yr hyn sydd Ddelw-addoliaeth.
3. Gosod ein calonnau a'n hanwydau in ormodd a'r bethau eraill, heblaw y gwîr Dduw.
3. Gosod ein calonnau a'n hanwydau yn ormodd a'r bethau eraill, heblaw y gwîr Dduw.
Cwest.
Beth a arwyddir in y geiriau hyn, GER FY MRON I?
Beth a arwyddir yn y geiriau hyn, GER FY MRON I?