Atteb. Y gwrthwediad hyn, pryder diwraidd yw, in tarddu o gallon amheus ac anghrediniol, yngwrthwyneb i amriw addewidion yngair Duw, megis ill hynny in y Dihar. 11.24. Rhyw un a wascar ei dda ac fe a chwanegir iddo, a rhyw un arall a arbed mwy nac a weddai, ac a syrth i dlodi, wrth wascaru mae i ni deal, rhoddi rhan o'n pethau Da i'r tlodion, yr hon yw'r ford Siwraf, a diogelaf i lwyddo, ac arbed mwy nac a weddei iw'r ford fawr i dlodi. Adnod y 25. Yr enaid hael a frasheir: ⟨p. 9⟩A'r neb a ddwfrhâo a ddwfrheir yntau hefyd. Wrth yr enaid hael mae i ni deal y gŵr trugarog, yr hwn a frasheir hynny yw a lwydda in y bid, neu a gynnydda mewn golud. Ac medd ein jachawdwr in Math. 10.42. A phyw bynnag a roddo iw yfed i un o'r rhai bychain hyn, phioleid o ddwfr oer in unig, in wir meddaf i chwi, ni chill efe moi wobr. Megis pe dywedasei, fe obrwyr in ddirfawr y weithred leiaf o drugaredd a wneler i weinidog Christ, in cystal in y bid hwn, ac in y bid y ddaw, ac in Luc. 6.38. Medd efe, Rhoddwch, a rhoddir i chwi: Messur da, dwysedig ac wedi ei escwyd, ac in mined trossodd, a rhoddant in eich monwes: Canys â'r un messur ac y mesurwch, y mesurir i chwi drachefn. Ymma y mae Christ in rhoi megis bill o'u law, neu in entro mewn Bond, na fydd dynion ar golled am yr hyn a roddont er ei fwyn ef, and y caent yw Talu gyda lawyer o ragoriaeth, gan dderbyn mwy i mewn o fendithion wedu eu escwyd, ac in mined trossodd; Ar ba achos y mae'r Apostol (in 2 Cor. 9.6.) in dywedyd, Yr hwn sydd in have in brin a fêd in brin, (a'r hwn sydd in have in helaeth a fêd in helaeth. Felly ynteu pa fwyaf a roddir, mwyaf a dderbynnir gan Duw; pale y mae'r din y sydd dlottach o herwydd yr hyn a roddodd i'r seinctiau tlodion, a gweinidogion Duw? And megis Ffynhonau o ddyfroedd byw, pa fwyaf a dynnir o honynt, rhwyddach a rhedant; felly golud y Trugarogion; in arferol, (neu o'r lleiaf in fynych) a gynnydda trwy ei ddosparthiad; fell y pûmp torth haidd, a'r ychydig byscod wrth eu torri, au rhannu, neu Olew y wraig weddw in y stên, wrth ei dywallt allan.
Atteb. Y gwrthwediad hyn, pryder diwraidd yw, yn tarddu o galon amheus ac anghrediniol, yngwrthwyneb i amriw addewidion yngair Duw, megis y lle hynny yn y Dihar. 11.24. Rhyw un a wascar ei dda ac fe a chwanegir iddo, a rhyw un arall a arbed mwy nac a weddai, ac a syrth i dlodi, wrth wascaru mae i ni ddeall, rhoddi rhan o'n pethau Da i'r tlodion, yr hon yw'r ffordd Siwraf, a diogelaf i lwyddo, ac arbed mwy nac a weddei iw'r ffordd fawr i dlodi. Adnod y 25. Yr enaid hael a frasheir: ⟨p. 9⟩A'r neb a ddwfrhâo a ddwfrheir yntau hefyd. Wrth yr enaid hael mae i ni ddeall y gŵr trugarog, yr hwn a frasheir hynny yw a lwydda yn y byd, neu a gynnydda mewn golud. Ac medd ein iachawdwr yn Math. 10.42. A phyw bynnag a roddo iw yfed i un o'r rhai bychain hyn, phioleid o ddwfr oer yn unig, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe moi wobr. Megis pe dywedasei, fe obrwyr yn ddirfawr y weithred leiaf o drugaredd a wneler i weinidog Crist, yn cystal yn y byd hwn, ac yn y byd y ddaw, ac yn Luc. 6.38. Medd efe, Rhoddwch, a rhoddir i chwi: Messur da, dwysedig ac wedi ei escwyd, ac yn myned trossodd, a rhoddant yn eich monwes: Canys â'r un messur ac y mesurwch, y mesurir i chwi drachefn. Ymma y mae Christ yn rhoi megis bil o'u law, neu yn entro mewn Bond, na fydd dynion ar golled am yr hyn a roddont er ei fwyn ef, ond y caent yw Talu gyda llawer o ragoriaeth, gan dderbyn mwy i mewn o fendithion wedu eu escwyd, ac yn myned trossodd; Ar ba achos y mae'r Apostol (yn 2 Cor. 9.6.) yn dywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd yn brin, (a'r hwn sydd yn hau yn helaeth a fêd yn helaeth. Felly ynteu pa fwyaf a roddir, mwyaf a dderbynnir gan Duw; pa le y mae'r dyn y sydd dlottach o herwydd yr hyn a roddodd i'r seinctiau tlodion, a gweinidogion Duw? Ond megis Ffynhonau o ddyfroedd byw, pa fwyaf a dynnir o honynt, rhwyddach a rhedant; felly golud y Trugarogion; yn arferol, (neu o'r lleiaf yn fynych) a gynnydda trwy ei ddosparthiad; fel y pûmp torth haidd, a'r ychydig byscod wrth eu torri, au rhannu, neu Olew y wraig weddw yn y stên, wrth ei dywallt allan.