1. Am yr Awdur.
pp. 256–2584 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Am yr Awdur.
Y cyntaf a ordeiniodd ac a drefnodd ympryd, oedd Dduw ei hun ym mharadwys: a'r gyfraith gyntaf ar a wnaeth Duw ydoedd hi, self gorchymmyn i Adda ymgadw oddiwrth y ffrwyth gwaharddedig. Ni adroddai, ac ni scrifennai Dduw ei gyfraith heb ympryd, ac in ei gyfraith y mae ef in gorchymmyn iw holl bobl ymprydio: felly y mae ein Jachawdwr Christ in athrawiaethu ei holl ddiscyblion yntau tan y Testament newydd un agwedd. Math. 6.17. Ymprydio in dduwiol ydyw 'r mod nessaf a bair i ddŷn ymddangos in debyg ⟨p. 257⟩i Angelion, a gwneuthur •wyllys Duw ar y ddaiar, megis y gwneir in y nefoedd. Je y mae nature megis in dyscu i ddŷn y ddlêd hon, gan roddi iddo safn bychan, a gwddf cyfyngach: o ran fe fodlonir nature ag ychydig, a grâs â lay. Ac nid yw nature a grâs in cyttuno in well mewn un weithred nac in ymarfer o ympryd duwiol: canys y mae in cryfhau y côf, in golevo y meddwl, in llewyrchu y dealltwriaeth, in ffrwyno trachwantau, in marwhau y cnawd, in ymddiffyn diweirdeb, in achub rhag clefyd, in cynnal yr jechyd, in gwaredu rhag drygau, ac in peri pob mâth ar fendithion.