Am ymarfer o Dduwioldeb wrth Sanctaidd wledda.
pp. 271–2723 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am ymarfer o Dduwioldeb wrth Sanctaidd wledda.
Gwledd sanctaidd yw diolchgarwch hynodol (gosodedig trwy Awdurdod) iw chyssegru i Dduw ar ryw did arbennig, am ryw fendithion neu ymwaredau odiaethol a dderbynwyd. y cyfryw oedd wlêdd yr oen Pâsc in mhlith yr Juddewon, i ddwyn ar gôf foliannu DVW am eu gwared hwy o gaethiwed yr Aipht, Exod. 12.15. neu wlêdd ⟨p. 272⟩Purim, i dalu diolch am eu gwared hwy o fradwriaeth Haman, Hest. 9.16.21. Y cyfryw in ein plith ni ydyw y pumed o Awst, i glodfori Duw am waredu ein diweddar Frenin James oddiwrth fradwriaeth Gowri. Ar pumed o Dachwedd am waredu y Brenin a'r holl deyrnas oddiwrth y pabaidd Bowdr fradwriaeth. Y cyfryw wleddoedd a ddylent gael eu cyssegru drwy egluro in gyhoeddus yr hynodol drugareddau hynny, mewn Psalmau ysprydol, a dawnsiau; gan wahodd y nail y llall, a danfon anrhegion pob un i'w gymmydog: ac in enwedig danfon cardodau i'r tlodion.