Gof. 45. Pa beth yw Sacrament?
pp. 176–17815 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 45. Pa beth yw Sacrament?
Atteb. Sacrament yw ordinhâd dduwiol in yr hon drwy arwyddion oddiallan y siccrheir Christ a'i ddaioni ir ffyddloniaid.
Atteb. Sacrament yw ordinhâd dduwiol yn yr hon drwy arwyddion oddiallan y siccrheir Christ a'i ddaioni ir ffyddloniaid.
Eglurhad. Yspysir yma ynghylch Sacrament wrth ddatcan.
1. Ei nature gyffredinol, self ei fod in ordinhâd Dduwiol.
1. Ei natur gyffredinol, sef ei fod yn ordinhâd Dduwiol.
2. Ei rannau y rhai ydynt in gyntaf, yr arwyddion oddiallan, in ail, y pethau ysprydol a arwyddocceir wrthynt.
2. Ei rannau y rhai ydynt yn gyntaf, yr arwyddion oddiallan, yn ail, y pethau ysprydol a arwyddocceir wrthynt.