Gof. 60. Pa beth yw ergyd ac ystyr y gorchymmyn hwn
pp. 220–22115 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gof. 60. Pa beth yw ergyd ac ystyr y gorchymmyn hwn
Atteb. Bod ini gymmeryd Jehofah y gwir Dduw in Dduw i ni, a bod ini ei addoli a'i ogoneddu ef megis y gwir Dduw, a'n Duw ni.
Atteb. Bod ini gymmeryd Jehofah y gwir Dduw yn Dduw i ni, a bod ini ei addoli a'i ogoneddu ef megis y gwir Dduw, a'n Duw ni.
Eglur. Gofynnir try pheth in y gorchymmyn cyntaf.
Eglur. Gofynnir tri pheth yn y gorchymmyn cyntaf.
Bod ini gydnabod Jehofah in wir Dduw a'i gymmeryd ef in Dduw ini, a'n cwbl roddi ein hunain iddo ef, i fod in bobl ffyddlon iddo ef, gan ymgyssegru in hollhawl iw wasanaeth ef.
Bod ini gydnabod Jehofah yn wir Dduw a'i gymmeryd ef yn Dduw ini, a'n cwbl roddi ein hunain iddo ef, i fod yn bobl ffyddlon iddo ef, gan ymgyssegru yn hollhawl iw wasanaeth ef.
II. Bod ini ei addoli ef megis yr unic wir Dduw in ol ei cwyllys a ddatcuddiwyd ini in ei air. Addolir Duw â'r gallon oddifewn, drwy ei garu a'i ofni ac ymddiried ynddo ef: ac â'r din oddiallan hefyd drwy weddio atto ef ai foliannu. Gofynnir y ddau in y gorchymmyn hwn.