A04462:128
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1Yr hen Dadau, Origenes, a Chrysostom, sy‘n annog y bobl i ddarllen y Scrythurau glan, i briny llyfreu, ag i‘mresymmu, gwyr a gwragedd,2 tadeu a phlant, gartref rhyngthynt eu hunain ynghylch petheu duwiol. Nhwytheu ydynt in bwrw‘r Scrythurau in elfennau meirw, a chymaint bight ag allont in gwahardd ag in cadw‘r bobl o ddiwrthynt.3 Medd y Tadeu sanctaidd, Cyprianus, Epiphanius, a Hieronimus, am y neb a wnelo adduned ag a roddo ddiofryd priodas, a chwedi hynny a fo‘n hyw‘n aniwair heb allu diffodd tan y chwantau cnowdol, may gwell iddo briodi, a byw‘n ddiwair mewn priodas. Ag y mae‘r hen Dad Awstin in barnu‘r briodas ⟨p. 62⟩honno in berffaith gymeradwy, ag na ddylid moi dattod. Nhwytheu am y neb a rwymo‘i hun unwaith a llwf, ag a diofryd, er ei fod ef in losci wedi hynny, er ei fod in ymarfer a phuteiniaid, er iddo lugru, a halogi ei fuchedd, in frwnt anrhaith-ddioddef, etto er hynny, ni adawant hwy iddo mor priodi: Neu o damwain iddo scatfydd briodi, etto nid ydyw hynny briodas m‘oni in eu disc nhwy. A gwell, a sancteiddiach meddant, yw cadw gordderch, a phutteyn, na byw‘n briod in y mod hwnnw.4 Yr hen Dad Awstin oedd in cwyno ag in beio ar y lluosowgrwydd o çeremoniae o‘r rhai yr oedd ef in gweled fod gormod llwyth ar feddylieu a chydwybodau dynion in ei amser ef. Eithr y gwyr hyn fegis na bae Duw‘n gwneuthyr ysturiaeth o ddim onid çeremoniae, a ddarfu iddynt amylhau yr rheini i beth mor anfeidrol, nad oes gan-mwyaf ddim arall amgenach wedi ei adel in eu heglwysi au capelau nhwy.5 Hefyd medd yr hen Dad Awstin nid rhydd i fynach dreulio‘i oes in fuscrell ag in segurllyd, a byw ar eraill dan gymryd arno liw a llun sancteiddrwydd. A phwy bynnag a fo byw felly, tebig yw ef i leidr, medd yr hen Dad Apollonius.
1Yr hen Dadau, Origenes, a Chrisostom, sy‘n annog y bobl i ddarllen y Scrythurau glan, i bryny llyfreu, ag i‘mresymmu, gwyr a gwragedd,