A04462:129
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And genthynt hwytheu, y mae, pan a ddoeda‘i ai lawyer gyrr, ai lawyer mintai o fynachod, yr rhai er nad ydynt in gwneuthyr dim, nag y chwaith in cymryd arnynt nag ail na chyffelybiaeth sancteiddrwydd, etto nid ydyn-nhwy‘n unig in byw, namyn hefyd in gloddest ar dda eraill. Yr hen Gymanfa-Gyngor in Rhufain a ordeiniodd na bae rid i neb ddyfod i wrando‘r gwasanaeth a ddoede‘r offeiriad,1 yr hwn y gwyddid arno in hysbus ei fod ef in cadw gordderch. Eithr y gwyr hyn, sy‘n llogi gordderchion iw offeiriaid, ag in chwaneg i hyn, in gyrru‘r bobl o‘n hanfodd i wrando‘r melldigedig wasanaeth a ddoetto‘r offeiriaid hynny. Canoneu hen yr Apostolion sy‘n peri symmyd o‘i swydd yr Escob hwnnw a fynno fo‘d in Swyddog llyg,2 a hefyd in wr Eglwysig. Etto hwynt hwy ydynt, ag a fynnant wasnaethy bob un or ddau. A chwaethach i hyn hefyd, nid ymyrran-hwy ar un o‘r swydde, yr hon a ddylent ei dwyn in bennaf; ag etto nid oes neb in gorchymyn eu symmyd nhwy o‘u lleoedd.
Ond genthynt hwytheu, y mae, pa vn a ddoeda‘i ai llawer gyrr, ai llawer mintai o fynachod, yr rhai er nad ydynt yn gwneuthyr dim, nag y chwaith yn cymryd arnynt nag ail na chyffelybiaeth sancteiddrwydd, etto nid ydyn-nhwy‘n vnig yn byw, namyn hefyd yn gloddest ar dda eraill. Yr hen Gymanfa-Gyngor yn Rhufain a ordeiniodd na bae rydd i neb ddyfod i wrando‘r gwasanaeth a ddoede‘r offeiriad,1 yr hwn y gwyddid arno yn hysbus ei fod ef yn cadw gordderch. Eithr y gwyr hyn, sy‘n llogi gordderchion iw offeiriaid, ag yn chwaneg i hyn, yn gyrru‘r bobl o‘n hanfodd i wrando‘r melldigedig wasanaeth a ddoetto‘r offeiriaid hynny. Canoneu hen yr Apostolion sy‘n peri symmyd o‘i swydd yr Escob hwnnw a fynno fo‘d yn Swyddog llyg,2 a hefyd yn wr Eglwysig. Etto hwynt hwy ydynt, ag a fynnant wasnaethy bob vn or ddau. A chwaethach i hyn hefyd, nid ymyrran-hwy ar vn o‘r swydde, yr hon a ddylent ei dwyn yn bennaf; ag etto nid oes neb yn gorchymyn eu symmyd nhwy o‘u lleoedd.
- 1Concil. Rom. ca. 3.
- 2