A04462:142
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Andanom-mi y doedant, chwi a fuoch gynt on crefydd a‘n cymdeithas ni, and yr our‘on e ddarfu i chwi ymadel ag ymwahanu a ni. Gwir ydyw, ddarfod i ni ymadel a nhwy, ag mae gennym ddiolch i‘r goruchaf Dduw, a llawen jawn ydym, ar eyn rhan eyn hun, wneuthyr onom-mi hynny. And etto ni ddarfu i ni mor ymadel ar brif-Eglwys, nag a‘r Apostolion, nag a Christ. E‘n dygpwyd ni finny gyda‘r gwyr hyn mewn ⟨image 77⟩tywyllwch, ag mewn gwall gwybodaeth am Dduw, fall y cafodd Moeses ei disc a‘i ddwyn i finny in athrawiaeth ag ymmynwes yr Aiphtiaid. Ni a fuom (medd Tertullian) o‘ch cymdeithas chwi; rwy‘n cyfaddef ag nid oes dim rhyfeddod, (medd ef:) Herwydd nid yw dynion in Gristnogion wrth enedigaeth, eithr wrth wneuthuriad. And, pam y dolwg, y darfu iddynnhwy sydd ddinaswyr Rhufain, symyd, a dyfod▪ i lawr i drigo i‘r Gwastad a elwir *Maes Mars, o ddiar y saith bryn ar y rhai yr oedd Rhufain in sefyll gynt? Nid hwyrach y doedan-nhwy, may am ballu a sychu in y brynniau hynny y cwndidau dwr, heb yr rhai ni ellent hwy mor byw yno‘n jawn. Rhôn nhwytheu (ar nawdd Dduw) i ni, wrth geisio dwr y bywyd tragwyddol, yr un faith gennad ag a fynnan-nhwy gymryd eu hunain wrth geisio dwr y pydew. Oblegid, in wir, e ballase‘r dwr in eu plith nhwy; Yr henuriaid (medd Jeremi) a ddanfonasont eu rhai bychain i‘r dyfroedd, nhwytheu druein in meirw o syched, gan na fedrent gael dwr, a‘mchwelasant a‘u Ilestri‘n wâg. Yr anghenus a‘r rhai tlodion (hebr Isaiah) a chwiliasant o amgylch am ddwr, and ni fedren-nhwy gael dim in unlle: yr oedd eu tafodeu nhwy wedi gwywo ⟨p. 71⟩o dra syched. Felly‘r gwyr hyn a dorrasant in gandryll yr holl bibellau a‘r cwndidau dwr: nhwy a argavasant yr holl ffrydiau, ag a lenwasant ffynnon y dwr byw â thom ag â brynti. A megis in Rhufain y gwnaeth Caligula gynt am gau a chloi‘r holl yscyborieu yd, gan berry‘n y mod hwnnw newyn a drudaniaeth cyffredinol ymhlith y bobl, felly‘r gwyr hyn nhwytheu, wrth gau a phridd-lenwi holl ffynnoneu gair Duw, a wnaethant ar y bobl syched gresynol. Nhwy a barasant newyn a sychedd ar ddynion (fall y doedodd y Prophwyd Amos,) nid newyn bara, na syched dwr, and newyn, a syched, gwrando gair Duw. Y truein gwerin a aethant amgylch ogylch, dan geisio rhyw wreichionen o oleuni duwiol, i lawenhau eu cydwybodau, eithr y goleuni hwnnw oedd wedi diffodd cyn llwyred na fedren-nhwy gael un gronyn. Llymma‘r cyflwr, llymma‘r drefn ressynol, oedd ar Eglwys Dduw.