A04462:134
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And mae arna fi chwant ymliw ychydig a‘r Pab ei hun, a doedyd hyn wrth ei wyneb ef. Doedwch chwithe i ni (sancteiddiol Bab) gan eych bod chwi‘n ffrostio cymaint o henafiaeth, ag in bostio fod pawb in rhwymedig in unig i chwi, pwy er joed o‘r holl hen Dadeu a‘ch galwodd chwi‘n Brelat uchaf,1 neu‘n Escob pennaf trwy‘r holl fyd, neu‘n ben ar yr Eglwys? Pwy onynt er joed a ddoedodd ddarfod rhoddi‘r ddau gleddyf i chwi? Pwy o honynt er ⟨p. 65⟩joed a fynegodd may jawn i chwi, a bod awdurdod gennych, i ddyfyn Cymanfa-Gynghorau? Pwy onynt er joed a sonniodd nad yw‘r holl fyd onid eych Dioeçes chwi?2 Pwy onynt a grybwyllodd ddarfod i‘r holl Escobion dderbyn och cyflownder chwi? Pwy onynt a yngenodd ddarfod rhoddi i chwi holl alluowgrwydd in y nef,3 in gystal agar y ddayar? Pwy onynt a draethodd na all na Brenhinoedd, na‘r holl wyr Eglwysig, na‘r holl fyd y chwaith, mo‘r barnu arnoch ‘i? Pwy onynt a ddoedodd fod Brenhinoedd ag Ymerodreu, drwy ewyllys a gorchymyn Christ, in cymryd eu hawdurdod gennych? Pwy onynt, drwy mor ystrowgar gyfrwyddid mathematicaidd, a ddangosodd eych bod chwi ddeng-waith a thrugain saith-waith mwy no‘r Brenhinoedd mwyaf?4 Pwy onynt a fynegodd ddarfod rhoi i chwi mwy o allu ag awdurdod, nog i‘r Patrieirch eraill? Pwy o honynt a sonniodd may chwychwi yw‘r Arglwydd Dduw? neu,5 nad oeddych in unig o rywiogaeth din, eithr rhyw sylwedd wedi ei wneuthyr a‘i dyfu ynghyd, o Dduw, ag o din? Pwy o honynt a grybwyllodd may chwychwi yw prif ffynnon holl Gyfraith? Pwy o honynt a yngenodd fod ichwi alluowgrwydd ag awdurdod ⟨image 72⟩ar y Purdan? Pwy o honynt a draethodd y gellwch ‘i orchymyn Angylion Duw fall y mynnoch eych hunan? Pwy onynt er joed a ddoedodd may chwychwi yw Brenin y Brenhinoedd,6