A04462:144
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Wrth hynny, er bod in erwin genthynt ddarfod i ni ymado a nhwy, etto hwy a ddylent ystyrio mor gyfiawn ydoedd yr achos a wnaeth i ni ymadel. O doedannhwy ⟨image 78⟩nad rhydd mewn mod in y bid i neb adel y gymdeithas lle y dycpwyd ef y finny; nhwy a allant felly in eyn cyscod ni gondemnio ‘r Prophwydi, a ‘r Apostolion, a Christ ei hun. Canys pam na achwynant hwy hyn hefyd, fined Lot allan o Sodom, fined Abraham ymmaeth o wlad Chaldea, fined yr Hebraeaid allan o‘r Aipht, fined Christ oddi wrth yr Iddewon, a mined Pawl oddi wrth y Pharisaeaid? Herwydd oni ddichyn bod achos cyfiawn i neb ymadel (na chynt na chwedi) ni welwn-ni resswm pam na ellir cyhuddo Lot, Abraham, yr Hebreaeaid, Christ, a Phawl Abostol, o gynnwrf a gwyr-bleidiaeth in gystal ag eraill.
Wrth hynny, er bod yn erwin genthynt ddarfod i ni ymado a nhwy, etto hwy a ddylent ystyrio mor gyfiawn ydoedd yr achos a wnaeth i ni ymadel. O doedannhwy ⟨image 78⟩nad rhydd mewn modd yn y byd i neb adel y gymdeithas lle y dycpwyd ef y fyny; nhwy a allant felly yn eyn cyscod ni gondemnio ‘r Prophwydi, a ‘r Apostolion, a Christ ei hun. Canys pam na achwynant hwy hyn hefyd, fyned Lot allan o Sodom, fyned Abraham ymmaeth o wlad Caldea, fyned yr Hebraeaid allan o‘r Aipht, fyned Crist oddi wrth yr Iddewon, a myned Pawl oddi wrth y Pharisaeaid? Herwydd oni ddichyn bod achos cyfiawn i neb ymadel (na chynt na chwedi) ni welwn-ni resswm pam na ellir cyhuddo Lot, Abraham, yr Hebreaeaid, Crist, a Phawl Abostol, o gynnwrf a gwyr-bleidiaeth yn gystal ag eraill.
Ag od yw‘r gwyr hyn in mynny‘n bwrw ni ‘n Hereticiaid, er mwyn nad ydym in gwneuthyr pob peth wrth eu harchiad nhwy: Pwy, (er Duw) pa ray, neu pa faith ddynion a ddylent hwy hunain gael eu gadel, sy‘n dirmygu gorchmynnion Christ a‘r Apostolion? Od ydym-mi Sçismaticiaid oblegid ddarfod i ni eu gadel nhwy; gerfydd pa henw ynte y gelwir nhwy hunain a ddarfu iddynt ymadel a‘r Groegiaid, (gan y rhai y cowsont hwy eu ffydd gyntaf) ymadel a‘r Brif-Eglwys, â Christ ei hun, ag â‘r Apostolion,