A04462:152
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr nid er mynegu bob pwnc o ragoriaeth rhyngom-mi a nhwy, herwydd peth anneirif gan-mwya fydde hynny: yr ydym-mi‘n cyfieuthu‘r Scrythur lan ymhob jaith: Nhwythau, braid y gadawannhwy‘r Scrythur lan i fod mewn jaith in y bid. Gwahadd y bobl yr ydym-mi i ddarllen ag i wrando gair Duw: eu hymlid nhwy ford y maen-nhwytheu. Chwē nych yr ydym-mi gael o bawb wybod ⟨p. 74⟩eyn hachos: cilio oddi wrth farn y maen-nhwytheu. Bwrw ‘n pwys ar wybodaeth rydym-i: pwyso ar anwybodaeth y maen-nhwytheu. Rhoi ‘n hither in y geleuni yr ydym-mi: hyderu ‘n y tywyllwch y maen-nhwytheu. Perchu (fall y gwedde) scrifennadeu‘r Apostolion a‘r Prophwydi rydym-mi; au llosci nhwy y maen-nhwytheu. In ddiwaethaf o‘r cwbl, in achos Duw, sefyll wrth farn Duw ei hun a fynnwn-ni: sefyll wrth eu barn eu hunain a fynnan-nhwytheu. Am hynny, os nhwy a ystyriant hyn y gyd â meddwl pwyllys, parod i wrando, ag i ddyscu; ni bid in unig cymeradwy genthynt y ford a gerddassom-mi (gan i ni gilio oddi wrth amryfyssedd, a chalyn Christ a‘r Apostolion,) eithr hefyd nhwy a‘m wrthodant a nhwy hunain ag a ddônt ar eyn tu ni o‘u gwaith eu hun.
Eithr nid er mynegu bob pwnc o ragoriaeth rhyngom-mi a nhwy, herwydd peth anneirif gan-mwya fydde hynny: yr ydym-mi‘n cyfieuthu‘r Scrythur lan ymhob iaith: Nhwythau, braidd y gadawannhwy‘r Scrythur lan i fod mewn iaith yn y byd. Gwahadd y bobl yr ydym-mi i ddarllen ag i wrando gair Duw: eu hymlid nhwy ffordd y maen-nhwytheu. Chwē nych yr ydym-mi gael o bawb wybod ⟨p. 74⟩eyn hachos: cilio oddi wrth farn y maen-nhwytheu. Bwrw ‘n pwys ar wybodaeth rydym-i: pwyso ar anwybodaeth y maen-nhwytheu. Rhoi ‘n hyder yn y geleuni yr ydym-mi: hyderu ‘n y tywyllwch y maen-nhwytheu. Perchu (fal y gwedde) scrifennadeu‘r Apostolion a‘r Prophwydi rydym-mi; au llosci nhwy y maen-nhwytheu. Yn ddiwaethaf o‘r cwbl, yn achos Duw, sefyll wrth farn Duw ei hun a fynnwn-ni: sefyll wrth eu barn eu hunain a fynnan-nhwytheu. Am hynny, os nhwy a ystyriant hyn y gyd â meddwl pwyllys, parod i wrando, ag i ddyscu; ni bydd yn vnig cymeradwy genthynt y ffordd a gerddassom-mi (gan i ni gilio oddi wrth amryfyssedd, a chalyn Crist a‘r Apostolion,) eithr hefyd nhwy a‘m wrthodant a nhwy hunain ag a ddônt ar eyn tu ni o‘u gwaith eu hun.