A04462:139
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In yr un-ffunyd (er da‘r holl fyd) wedi darfod ir gwyr hyn nhwytheu, ddiffrwytho unwaith cyfraith Dduw, drwy eu traddodiadeu eu hun: rhag ofn i‘r bobl egorud eu llygeid ar ol hynny, a llithro ymmaeth gan geisio ryw ford arall fodd siccrach o‘u hiechydwriaeth; O Dduw, mor fynych y llefasant hwy‘n groch, Dyma‘r Gwasanaeth sydd fodlon gan Dduw a‘r hwn a fin ef ei gael gennym, ⟨p. 68⟩ag er mwyn yr hwn, y try ef ei ddigofaint oddi wrthym! Trwy‘r moddion hyn y cedwir cyttundeb yr Eglwys: drwy‘r rhain y rhydd-hevir holl bechodau, ag yr esmwythir holl gydwybodeu; a phwy bynnag a‘mwrthodo a‘r petheu hyn, nid oes iddo ddim gobaith o gael ei achub in dragywydd. Herwydd (meddant hwy) blinder a lludded mawr fydde i‘r bobl ymchwelyd drach-gefn at Grist, at yr Apostolion, ag at yr hen Dadeu, gan ddyfal-graffu‘n wastad beth y maen-nhwy‘n ei orchymyn. Ai hyn (edrychwch) yw arwain pobl Dduw oddiwrth lesg-elfenneu‘r bid, oddi wrth *sur-does y Scrifennyddion a‘r Pharisaeaid, ag oddiwrth traddodiadeu dynion? Ai cymwys ydoedd symmyd ymmaith orchmynion Christ a‘r Apostolion, a gossod yr rhain in eu lle nhwy? Weal, ynte, achos cyfion gwych, pa ham y dilevid yr hen athrawiaeth ydoedd gymeradwy lawyer oes, ag y dygid i mewn i Eglwys Dduw faith newydd a‘r Grefydd! Ag etto pa faith bynnag ydyw, llefain y maennhwy nad rhaid newid dim o honaw, herwydd fod hyn in cwbl-fodloni meddylieu dynion, a darfod i Eglwys Rufain ordeinio hyn: a hefyd na ddichyn Eglwys Rufain mo‘r cam-gymeryd. Canys (medd Sylvester ⟨image 75⟩Prierias) Eglwys Rufain yw uniownder a Rheoledigaeth y Gwir, a darfod ir Scrythurau glan gael coel ag awdurdod oddiyno. Athrawiaeth Eglwys Rufain (heb‘r ef) yw di-amhevol Reoledigaeth y ffydd, oddi wrth yr hon Eglwys, y mae‘r Scrythur lan in cymryd nerth. Agni hysbysswyd i ni mo‘r pardyneu drwy awdurdod y Scrythur lan, eithr eu hysbysswyd nhwy drwy awdurdod Eglwys a Phabau Rhufain, yr hyn sydd fwy. Nid amhevodd hefyd Pighius ddoedyd na ddylid credu mor Scrythur rwyddaf, ag egluraf, heb archiad Eglwys Rufain. Yr un agwedd a phe bae un o‘r rhai ni fedrant ddoedyd lladin purr-gowir, (ag er hynny a fedrant in ddigon parod ag in ddi-rwystr floesc-siarad peth or faith gyfraith-ladin ag sydd arferedig in y lies) in dal dadl may dyledus yw▪ i bawb eraill ddoedyd ar ol yr un ford ag y doedodd Catholicon a Mametrectus er is lawyer blwyddyn deg;