A04462:170
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In wir, os rhoi ‘r cwbl a wneid dan eu rhol a ‘u llywodraeth nhwyn‘n unig, y rhai ni wyddant, ag ni fynnant wybod ddim oddi wrth y petheu hyn, ag nid ydynt in gwneuthyr gwerth hatling o bris ar un pwnc o Grefydd, oddieithr am a berthyno iw bolieu ag i‘mgyfeddach: a hefyd os nhwy ‘n unig a wneid in farnwyr, ag fall gwyr deillion a ossodid i wilied ar ben twr: O‘r tu arall, o gorfydde i Dwysog Cristionaidd cyfiowngall sefyll fall cyff, ne bawl, ag na bae rid iddo mewn Cymanfa-Gyngor adrodd na‘i farn na ‘i feddwl, eithr in unig (fall un a fae allan o‘i bum syn̄wyr) disgwyl beth a fynnent ag a barent hwy: a derbyn in gymeradwy eu gossodigaetheu nhwy: (dan gyflowni drwy ddallineb beth bynnag archent, er maint cabledigaeth ag annuwioldeb fydde, je pettent in erchi iddo lwyrddestrywio ‘r holl Grefydd, ag eilwaith gross-hoelio Christ ei hun,) E fydde hynny‘r faith drowsed, a dirmyg, a balchder, ag anrhaith, na ddyle Twysogion pwyllus Cristnogawl na ‘i gyd-ddwyn na chydddioddef mo ‘naw.
Yn wir, os rhoi ‘r cwbl a wneid dan eu rhol a ‘u llywodraeth nhwyn‘n vnig, y rhai ni wyddant, ag ni fynnant wybod ddim oddi wrth y petheu hyn, ag nid ydynt yn gwneuthyr gwerth hatling o bris ar vn pwnc o Grefydd, oddieithr am a berthyno iw bolieu ag i‘mgyfeddach: a hefyd os nhwy ‘n vnig a wneid yn farnwyr, ag fal gwyr deillion a ossodid i wilied ar ben twr: O‘r tu arall, o gorfydde i Dwysog Cristionaidd cyfiowngall sefyll fal cyff, ne bawl, ag na bae rydd iddo mewn Cymanfa-Gyngor adrodd na‘i farn na ‘i feddwl, eithr yn vnig (fal vn a fae allan o‘i bum syn̄wyr) disgwyl beth a fynnent ag a barent hwy: a derbyn yn gymeradwy eu gossodigaetheu nhwy: (dan gyflowni drwy ddallineb beth bynnag archent, er maint cabledigaeth ag annuwioldeb fydde, ie pettent yn erchi iddo lwyrddestrywio ‘r holl Grefydd, ag eilwaith groes-hoelio Crist ei hun,) E fydde hynny‘r fath drowsedd, a dirmyg, a balchder, ag anrhaith, na ddyle Twysogion pwyllus Cristnogawl na ‘i gyd-ddwyn na chydddioddef mo ‘naw.
Pam a dolwg, a ddichyn Annas a Chaiphas ddeald rhol a llywodraeth, ag ni ddichyn brenhin Dafydd, a brenhin Hezekiah? Ai rhydd i Gardinal a fo rhyfelwr ag in lawn chwant gwaed, eistedd mewn Cymanfa-Gyngor, ag nid ydyw rid i Ymerodr neu i Frenin Cristnogawl? Diau nad ydym-mi ‘n rhoi mwy rhydid ag awdurdod i‘n Pennaethiaid nog a wyddom fod wedi caniattau iddynt in y Scruthur lan, a hefyd wedi ei gadarnhau iddynt drwy sampleu ag arfer y llywodraethau cyffredin goref. Herwydd heblaw rhoddi o Dduw bob un o ddwy lech y Gorchmynnion dan ddwylaw bob Twysog ffyddlon, megis y gall efo ddealld fod in perthyny iw swydd ef, nid in unig achossion llyg, eithr hefyd petheu cyssegr eglwysig: heblaw hefyd fod Duw ‘n fynych drwy ei Brophwydi ‘n erchi ‘r Brenin, in anad dim, dory y llwynau, bwrw i lawr a dryllio delwau ag allorau‘r Eulunod; a scrifenny llyfr y ddeddf iddo ‘i hun: a heblaw doedyd o ‘r Prophwyd Isaiah may rhaid ir Brenhin fod in ymddiffynnwr ag in dad-maeth i‘r Eglwys: Heblaw hyn y gyd (medda ‘i) ni a welwn wrth ddarllen ystoriaeu a sampleu‘r amseroedd goref, ddarfod i bob Twysog duwiol