A04462:178
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
a pha fodd, drwy gyfrwysdra y maent hwy‘n eu twyllo nhwy ‘u hunain, ag in eu sommi heb wybod iddynt, dan gwbl afrwyddo a dyrrysu‘r ford i deyrnas Nef o ‘u blaen nhwy: ni bid sith cyn howsed genthynt ddioddef na ‘u dirmygu mor drahaus, na‘u gwatwar mor wradwyddus gan y rhain. And yr our‘on drwy eu di-wybodaeth a ‘u dallineb eu hunain, y mae ‘r gwyr hyn wedi eu hievo hwynt, a chwedi cael methel arnynt.
a pha fodd, drwy gyfrwysdra y maent hwy‘n eu twyllo nhwy ‘u hunain, ag yn eu sommi heb wybod iddynt, dan gwbl afrwyddo a dyrrysu‘r ffordd i deyrnas Nef o ‘u blaen nhwy: ni bydde fyth cyn howsed genthynt ddioddef na ‘u dirmygu mor drahaus, na‘u gwatwar mor wradwyddus gan y rhain. Ond yr owr‘on drwy eu di-wybodaeth a ‘u dallineb eu hunain, y mae ‘r gwyr hyn wedi eu hieuo hwynt, a chwedi cael methel arnynt.
Nyni fall y doedassom o‘r blaen, dan newid crefydd, ni ddarfu i ni wneuthyr dim ar fir-bwyll nag o falchder; na dim chwaith namyn drwy her hamdden, a phwyllineb. Yrhyn beth hefyd ni feddyliasse ‘n ⟨p. 89⟩calonneu ni sith mo ‘i wneuthyr, oni buase o anghenrhaid ymufuddhau i wir ewyllys Duw sydd hynodedig i ni ‘n y Scrythurau glan, a bod in gorfod arnom hyn̄, o ran̄ achub eyn heneidieu. Herwydd er darfod i ni ymadel a‘r Eglwys honno, yr honey maent hwy‘n ei galw‘n Gatholic, a‘u bod nhwy o ran̄ hynny‘n peri i ni gas a chenfigen gen yr rhai ni wyddant farnu ‘n jawn; etto digon cennym-mi, (a digon a ddyle hyn fod gan bob din call duwiol a fo ‘n meddwl am fywyd tragwyddol,) ddarfod i ni ‘madel a‘r Eglwys honno yr hon a all gwympo mewn amryfyssedd, a‘r honey doedodd Christ amdeni (yr hwn ni ddichon amryfysso) y cwympe hi mewn amryfyssedd; a‘r hon a welwn-ni ‘n amlwg a‘n llygeid ddarfod iddi gwympo a chilio oddiwrth y Tadeu sanctaidd, oddi wrth yr Apostoliō, oddi wrth Christ eu hun, ag oddi wrth y Brif-Eglwys gatholic. Agni a ddaethom in nessa ‘g allassom at Eglwys yr Apostolion a ‘r hen Escobion, a‘r Tadeu catholic; yr hon Eglwys ninny a wyddom barhau oni hid in hyn, in bur ag in berffaith, ag in forwyn wyryf ddiwair (fall y doedodd Tertullianus) heb na llwgr delw-addoliaeth, na bay gwarthus in y bid arni. Ag e ddarfu i ni uniowni, nid eyn hathrawiaeth