A04462:18
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Introduction: Annerch at yr howddgar ddarlleydd Cristnogawl.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Tu-ag-at am newid trefn, a newyddu llwybr y scrifennyddiaeth gymreig, drwy ddychymmig o wyr ryw faith ddieithr ar ⟨image 7⟩lythrenneu ag yscrifen bawb ar ei amean ei hun, a hynny fynychaf heb na rhôl, na rhesswm; anghymessur jawn yw ‘r helynt honno. Os newid llythyrenneu sydd raid, cymmwyssa llythyrenneu i ‘r Gymraeg yw ‘r elfenneu Groeg; hefyd, a ‘r rheini, medd yr Ymerodr Julius Caesar, yr oedd yr hên Frutanniaid arfer o scrifenny in ei amser ef gynt. And gan fod y llythyrennau sydd, in arferedig ag in sathredig ymhlith y Cymry er is cyhyd o amser, gwell yw cadw rheini rhag law, na throi ‘r bobl i ddyscu gwyddor drachgefn. Os anweddus yw gorfod dyblu, d, l, f, in-nechreu geiriau, eisteddfod o wyr dyscedig a ddichyn drwy awdurdod cyffredin ddi-wygu hynny o fai. Eithr in y cyf-amser, gormod hyfder mewn un gwr pwy bynnag fo, yw rhoi allan math newydd ar lytherenneu a scrifennyddiaeth, a thybied may cymwys i bawb ei galyn ef. Hyn a wnaeth i mi ochel newid dim in y llythyrenneu, er bod gennyf amryw dull ar elfenneu gymaint a chan eraill. Eisieu disc a duwioldeb, ag nid eisieu llythyrenneu i adrodd disc, sydd ar yr jaith gymraeg. Nid gwaeth gan y newynog fwyd mewn decsul burn, nog mewn descyl arian. Mi a fûm ddiëscaelusa ‘g ellais in-ôl trefn jeithoedd dyscedig, ag in enwedig ⟨image 7⟩jaith Ffrainc ag Itali, ar ossod ymadrodd hyn o lyfr in llyfn ag in llwybraidd, gan ochel dryg-sain a llediaith (gymaint dim bight ag allwn) in scrifennyddiaeth a llaferydd y geirieu; ag fall y gall Cymro ei ddarllen ef in rhwydd, ag in rhygyl. O digwydd i ti ar y cais cyntaf gyfarfod a pheth anghynefinder ag anhowsder, mewn ystryw a dealld rhyw ddoediad neu sentens weithie; yna, darllen di ‘r man hwnnw drachgefn, a pha fynychaf y darllenner ef, howsach howsach fydd ei ddirnad. Hefyd, rhaid i ti wybod na ellir cyfieuthu dim o jaith arall in gymraeg, cyn rhwydded, a chin rhydded, ag y dichyn un scrifenny ‘r peth a ddychmygo ag a fynno fo ‘i hun. In y nail, rhaid yw dilyn doediad, a chalyn cerddediad gwr arall: in y llall, mae i din gymryd y llwybr a welo fo in dda, a gwneuthyr ei daith ai waith, yr hwn a fynno, ai her, ai byrr, ai crych, ai llyfn; yr hyn beth a wyr pawb dyscedig.
Tu-ag-at am newid trefn, a newyddu llwybr y scrifennyddiaeth gymreig, drwy ddychymmig o wyr ryw fath ddieithr ar ⟨image 7⟩