A04462:196
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Heblaw hynny, ninny (in benna rhai) a‘madowsom ag efo in gyfiawn ag in gymhessur jawn; oblegid eyn brenhinoedd ni, yr rhai oeddynt fwya ‘u gofal a ‘u goglud ar ffydd ag awdurdod Escobion Rhufain, hwynt hwy a glywsant drymder yr jau, ag a welsant drowsed brenhiniaeth Pabau Rhufain. Canys Pabau Rhufain a ddugasant goron Henri ‘r ail, Brenin y deyrnas hon, o ddiar ei ben, ag a wnaethont iddo roi heibio holl oruchafiaeth, a mined fall gwr heb fry in y bid arno drwy ostyngeiddrwydd ag ufydd-ymbil at eu cennadwr nhwy; a hynny fegis peth i berry iw holl ddeiliaid ef chwerthin gwatwar am ei ben. Hefyd nhwy a gyffroasant ag a godassant mewn arfau yr holl Escobion, Myneich, a rhai or Pendefigion, in-erbyn brenin Joan, brenin y deyrnas hon: a nhwy a ryddhavassant y bobl oddi wrth y llwf a ⟨image 107⟩ddarfuase iddynt dyngu ar fod in gywirffyddlon iw brenin: in ddiwaethaf, ag in erchyllaf or cwbl, nhwy a speiliassant y brenin hwnnw, nid o ‘i frenhiniaeth in unig, eithr o ‘i einioes hefyd, drwy fawr greulondeb. Heblaw hyn hefyd, nhwy a escumunassant, ag a felldithiasant frenin Henri ‘r wythfed yr hwn ydoedd dwysog anrhydeddusaf, ag a gyffroasant in ei erbyn ef, weithie ‘r Ymerodr, weithie eraill brenin Ffrainc, gan wneuthyr (gymeint ddim bight a ‘r allent) lwyr ddifrod ag anrhaith o ‘r deyrnas hon. Etto digon ynfydion oedd eu penneu nhwy feddwl yr un or ddeubeth, na gallu onynt drwy waith bwbachod a rhygl-grwyn yrru braw ar frenin mor alluawg ag oedd ef, na chwaith traflyncu (fegis ar untamed) frenhiniaeth mor brif ardderchawg a hon.
Heblaw hynny, nyni (yn benna rhai) a‘madowsom ag efo yn gyfiawn ag yn gymhessur iawn; oblegid eyn brenhinoedd ni, yr rhai oeddynt fwya ‘u gofal a ‘u goglud ar ffydd ag awdurdod Escobion Rhufain, hwynt hwy a glywsant drymder yr iau, ag a welsant drowsedd brenhiniaeth Pabau Rhufain. Canys Pabau Rhufain a ddugasant goron Henri ‘r ail, Brenin y deyrnas hon, o ddiar ei ben, ag a wnaethont iddo roi heibio holl oruchafiaeth, a myned fal gwr heb fri yn y byd arno drwy ostyngeiddrwydd ag vfydd-ymbil at eu cennadwr nhwy; a hynny fegis peth i beri iw holl ddeiliaid ef chwerthin gwatwar am ei ben. Hefyd nhwy a gyffroasant ag a godassant mewn arfau yr holl Escobion, Myneich, a rhai or Pendefigion, yn-erbyn brenin Ioan, brenin y deyrnas hon: a nhwy a ryddhauassant y bobl oddi wrth y llwf a ⟨image 107⟩ddarfuase iddynt dyngu ar fod yn gywirffyddlon iw brenin: yn ddiwaethaf, ag yn erchyllaf or cwbl, nhwy a speiliassant y brenin hwnnw, nid o ‘i frenhiniaeth yn vnig, eithr o ‘i einioes hefyd, drwy fawr greulondeb. Heblaw hyn hefyd, nhwy a escumunassant, ag a felldithiasant frenin Henri ‘r wythfed yr hwn ydoedd dwysog anrhydeddusaf, ag a gyffroasant yn ei erbyn ef, weithie ‘r Ymerodr, weithie eraill brenin Ffrainc, gan wneuthyr (gymeint ddim byth a ‘r allent) lwyr ddifrod ag anrhaith o ‘r deyrnas hon. Etto digon ynfydion oedd eu penneu nhwy feddwl yr vn or ddeubeth, na gallu onynt drwy waith bwbachod a rhygl-grwyn yrru braw ar frenin mor alluawg ag oedd ef, na chwaith traflyncu (fegis ar vn tamed) frenhiniaeth mor brif ardderchawg a hon.