A04462:198
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ti a weli bellach,* ddarlleydd Cristnogawl, tu-ag-at am Grefydd Christ a orescynnwyd drach-gefn in hwyr, ag sydd wedi geni eilwaith, nad peth dieithr anghynefinol yw cael o ‘r crefydd hwn ei o ganu a ‘i wradwyddo; in gymeint a chael o Grist a ‘r Apostolion yr un rhyw sarhaad. And er hynny, rhag ofn iti adel dy gam-arwain aith sommi wrth glywed y mod y mae ‘n gwrthwynebwyr ⟨image 108⟩ni in croch-weiddi arnom, e ddarfu i ni ddosparthu in hyn o lyfr holl agwedd a grim eyn crefydd; self, beth yw ‘n coel am Dduw ‘r Tad, am Dduw ‘r unig fab Jesus Grist, am Dduw ‘r Yspryd glan, am yr Eglwys, am y Sacramenteu, am weinidogaeth, am y Scrythurau glan, am ddeddfodeu eglwysig, ag am bob darn o ‘n crediniaeth ing Hrist Jesus. Ni a fynegassom eyn bod ni drwy ddirfawr gas a dygasedd in ffieddu (megis pla-heintiau bryntion a gwenwyn eneidiau) yr holl hen Heresiau yr rhai ydynt *evog-farnedig pan bynnag ai trwy eirieu ‘r Scrythurau glan, ai ynte trwy waith yr hen Gymanfa-Gynghorau gynt: a ‘n bod ni oreu bight ag allom am yr hoedl, in ceisio cyfleu drachgefn a gossod mewn braint, gwir addysc ag athrawiaeth yr Eglwys; yr hyn a ddarfu i ‘n Gwrthwynebwyr ni eu cwbl ddinerthu a‘u di-eneidio: A ‘n bod ni drwy nerth hen Gyfreithieu, a thost-hagrwch mwya ‘g allom (fall y dylem,) in llwyr-gospi holl ryfig, anlladrwydd, ag anllywodraeth buchedd. A ‘n bod ni ‘n cadw braint ag in cynnal bri Brenhiniaetheu, in yr un cyflwr a chymeriad, ag y cowsom-mi nhwy, heb na lleihau, na newidio dim; gan roddi i ‘n Twysogion gwbl barch a goruch-fowredd ⟨p. 104⟩in fwyaf ag in hyttraf y gallom. A darfod i ni gilio ymmaeth oddi wrth yr Eglwys honno yr hon a ddarfuase iddynt hwy ei gwneuthyr in Ogof ladron, in yr honey adowsont hwy ddim in ddilugredig ar a fae cyffelyb i Eglwys Dduw; a ‘r hon a addefassant hwy hunain ddarfod iddi lithro lawyer ford mewn amryfyssedd. O hon ynte, y ciliassom-mi, fall y ciliodd Lot gynt o Sodom, neu Abraham o ‘r wlad a elwid Chaldea; a hynny nid o ran chwant ymrafael, eithr wrth archiad a rhybyddiad Duw ei hun: A darfod i ni geisio ‘n y Scrythurau glan di-dwyllodrus, a thynny allan ‘onynt, math a ffurf siccur ar Grefydd, dan ddychwelyd drach-gefn at Brif-Eglwys yr hen Dadeu a ‘r Apostolion; self yw hynny, at y dechrevad a‘r drefn gyntaf, fegis at sylfaenau a gwaelod-ffynnonnau‘r Eglwys.