A04462:185
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Felly hefyd pan wrthododd Palladius a Secundus y Cyngor in Aquila, er mwyn nad oedd ef Gyngor cyffredin; e attebodd Ambrosius Escob Milan na ddyle neb dybied may peth newydd dieithr oedd glywed fod Escobion y Gorllewin in ⟨image 100⟩dyfyn Senedden, a chynlleidfaeu, in eu gwledydd eu hun. Herwydd peth cynefinol fuase hynny ymlaen-law gen Escobion y Gorllewin, a pheth a arferasse Escobion Graeçia ei wneuthyr in fynych jawn. Felly, y mynnodd yr Ymerodr Carolus Magnus gynnal Cyngor neu Senedd yngwlad Germania, i droi delwau ymmaeth, in-nerbyn yr ail Gymanfa-Gyngor in Niçea. Ag in wir, in eyn plith ni ‘n hunain, nid newydd na dieithr mo hyn̄ o helynt. Herwydd e fu gennym-mi ymma ‘n Lloegr Senedd-Gymanfaeu cyn hyn; ag ni a lywodraethasom eyn heglwysi drwy nerth cyfreithieu cartrefig. Pa raid y chwaneg? diau, am y Cymanfa-Gynghorrau mwyaf, a lluosoccaf, a ‘r a fu er joed, o‘r rhai y mae‘r gwyr hyn̄ in gwneuthyr cymaint frost, a rhodres; o chystedlir nhwy a holl Eglwysi ‘r holl fyd, sy ‘n cydnabod ag in cyfaddef henw Christ, beth a ellir tybied amdanynt amgenach, no‘u bod nhwy ‘n Gyngorau Escobion neulltuol ag in Seneddau gwledydd ar eu penneu eu hun? Oblegid pe rhoem ag ymgynnull ynghyd o Italia, Ffrainc, Hispaen, Lloygr, Germania, Denmark, a Scotland; etto er hynny, o bid diffic Asia, Graeçia, Armenia, Persia, Media, Mesopotamia, yr Aipht, Ethiopia, India, ⟨p. 93⟩a Mauritania (in yr holl amryw wledydd hyn, y mae lawyer o ddynion Cristnogion, a lawyer o Escobion hefyd,) pa fodd y dichyn neb a fo ‘n ei gof a‘i synwyr dybied may Cymanfa-Gyngor penrheithiawl drwy‘r holl fyd yw ‘r Cyngor hwnnw? Neu, lle y mae ‘n eisieu cynnifer darn o‘r bid, pa fodd y gallan-nhwy ddoedyd, in lle gwir, fod cyd-synniad yr holl fyd genthynt? Neu, pa ryw faith a‘r Gyngor, dybygwch chwi, oedd yr hwn a gynhaliwyd ddiwaethaf in-rhef Tridentum? neu pa fodd y gelid galw hwnnw in benrheithiol drwy‘r holl fyd, pan nid ymgynnullasse iddo o holl deyrnassoedd a chenedloedd Cred, onid deugain o Escobion in unig, a rhai o ‘r rheini mor gymmen, ag y buasse gymhessur eu danfon-nhwy adref drachgefni ddyscu Gramadec, a hefyd mor ddyscedig na ddarlennassent hwy er joed mor Scrythurau glan?
Felly hefyd pan wrthododd Palladius a Secundus y Cyngor yn Aquila, er mwyn nad oedd ef Gyngor cyffredin; e attebodd Ambrosius Escob Mylan na ddyle neb dybied may peth newydd dieithr oedd glywed fod Escobion y Gorllewin yn