A04462:199
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag, o ddoedyd y gwir, ni cheisiassom-mi ‘n hyn o achos ddisgwyl am awdurdod a chyd-synniad y Gymanfa-Gyngor in-rhef Tridentum, lle y gwelsom-mi nad oeddid in gwneuthyr dim mewn trefn jawn; lle hefyd yr oedd pawb in tyngu ar gynnal braint un *gwr: lle ni wneid bri na phris in y bid ar Gennadeu-urddol eyn Twysogion ni; lle ni chae un Difinydd na gwr eglwysig o ‘n crefydd ⟨image 109⟩ni mo ‘i wrando: eithr lle‘r oedd ymbleidio ag ymdrechu am oruchafiaeth: O herwydd pa ham, ni a wnaethom in y mod y gwnae ‘r Tadeu Duwiol gynt a ‘n henafiaid ni ‘n fynych, self, di-wygu anghyflwr eyn heglwysi drwy waith Senedd-Gymanfa o‘n gwlad eyn hun: gan yscwyd oddiar eyn guddfeu (fall y dylem) jau, a thraws-orthrechiad Pâb Rhufain, i ‘r hwn, nid oeddem-mi rwymedig; a‘r hwn nid oedd gantho ddim cyffelib nag i Grist, nag i Bedr, nag i un Apostol, na dim chwaith cyffelyb i Escob. In ddiwaethaf oll, doedyd yr ydym eyn bod ni in cydfod ag in cyttuno i ‘n plith eyn hunain ynghylch holl wraidd a sylwedd crefydd: a ‘n bod ni, megis ag un enau, un anadl, ag un yspryd, in anrhydeddu Duw, tad eyn Harglwydd Jesus Grist.
Ag, o ddoedyd y gwir, ni cheisiassom-mi ‘n hyn o achos ddisgwyl am awdurdod a chyd-synniad y Gymanfa-Gyngor yn-rhef Tridentum, lle y gwelsom-mi nad oeddid yn gwneuthyr dim mewn trefn iawn; lle hefyd yr oedd pawb yn tyngu ar gynnal braint vn *gwr: lle ni wneid bri na phris yn y byd ar Gennadeu-vrddol eyn Twysogion ni; lle ni chae vn Difinydd na gwr eglwysig o ‘n crefydd ⟨image 109⟩ni mo ‘i wrando: eithr lle‘r oedd ymbleidio ag ymdrechu am oruchafiaeth: O herwydd pa ham, ni a wnaethom yn y modd y gwnae ‘r Tadeu Duwiol gynt a ‘n henafiaid ni ‘n fynych, sef, di-wygu anghyflwr eyn heglwysi drwy waith Senedd-Gymanfa o‘n gwlad eyn hun: gan yscwyd oddiar eyn guddfeu (fal y dylem) iau, a thraws-orthrechiad Pâb Rhufain, i ‘r hwn, nid oeddem-mi rwymedig; a‘r hwn nid oedd gantho ddim cyffelib nag i Grist, nag i Bedr, nag i vn Apostol, na dim chwaith cyffelyb i Escob. Yn ddiwaethaf oll, doedyd yr ydym eyn bod ni yn cydfod ag yn cyttuno i ‘n plith eyn hunain ynghylch holl wraidd a sylwedd crefydd: a ‘n bod ni, megis ag vn enau, vn anadl, ag vn yspryd, yn anrhydeddu Duw, tad eyn Harglwydd Iesu Grist.