A04462:202
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Llymma i chwi pam y mae ‘r tuchan, eu bryd nhwy sydd ar eu bolieu. Eu holl nad a ‘u trin ydyw am gadw drwy gywilydd a gwarth, a enillassant hwy drwy wradwydd. Achwyn arnom-mi ‘r pride hyn y mae Pardynnwyr y Pâb, a ‘i Roddwyr, Ardrethwyr, llattaion, ag eraill yr rhai sy ‘n tybied may elw bydol yw duwioldeb; heb wasnaethu Christ, eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elw annianol i ‘r faith ddynion a ‘r rhain; a thybied y maent eu bod nhwy ‘n colli, beth bynnag y mae Christ in ei ennill. Am hynny mae ‘r Pâb in cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri, a fferru; er mwyn nad ydis in talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag yr oeddid ⟨image 111⟩arfer. O ran̄ hyn̄ y mae ef in peri ‘n cassau ni fwya ddim bight a ‘r allo, gan regn arnom, a ‘n bwrw in evog o Heresi: fegis y tybio‘r sawl nid ydynt gydnabyddus a ‘n hachos, nad byw mo ‘n gwaeth ni. Etto er hyn̄ y gyd, in y cyfamser, nid oes mor cywylidd arnom, ag ni ddylem mor cywylyddio o achos yr Efengyl. Herwydd mwy gennym am ogoniant Duw nog am fry dynion. Nyni a wyddom may gwir yw ‘r holl bethau rydym-mi ‘n dyscu; ag ni allwn-ni na mind in-nerbyn eyn cydwybodau eyn hunain, na dwyn testiolaeth in-nerbyn Duw. Canys o gwadwn-ni darn in y bid o Efengyl Jesus Grist geyr-bron dynion, ynte a ‘n gwada nine geyr bron ei Dad. Ag od oes ray a fynnant sith gymryd achos anfodlondeb, ag na allant ddioddef athrawiaeth Christ, deillion (meddwn-ni) a thwyswyr deillion yw ‘r rhai hynny: etto, nid anllai, rhaid i ni bregethu a gossod allan y Gwirionedd o flaen pob peth, a hefyd disgwyl trwy ddioddefgarwch am farn Duw. In y cyfamser edryched y gwyr hyn beth a wnelont, a meddyliont am eu hiechydwriaeth; peidiont a chassau, ag erlid Efengyl mab Duw, rhag ofn iddynt ryw amser gael di-wygwr a dialwr onaw ef […] ei achos ei hun. Ni ddioddefa Duw ⟨p. 107⟩mo ‘i watwar. Y mae dynion in canfod er is-dyddieu bellach, beth yr ydis arno, Am y fflam ymma, pa fwyaf y cedwer hi lawr, fwy fwy y cyfyd ag y cynnydda hi. Ni wna eu hanffyddlondeb nhwy mo ffyddlon addewid Duw in offer. And os nhwy ni fynnant roi heibio hyn o galedrwydd calon, a derbyn Efengyl Christ, diau ynte yr aiff Publicanaid a phechaduriaid o ‘u blaen nhwy i wlad teyrnas nef.
Llymma i chwi pam y mae ‘r tuchan, eu bryd nhwy sydd ar eu bolieu. Eu holl nad a ‘u trin ydyw am gadw drwy gywilydd a gwarth, a enillassant hwy drwy wradwydd. Achwyn arnom-mi ‘r pryd hyn y mae Pardynnwyr y Pâb, a ‘i Roddwyr, Ardrethwyr, llattaion, ag eraill yr rhai sy ‘n tybied may elw bydol yw duwioldeb; heb wasnaethu Crist, eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elw annianol i ‘r fath ddynion a ‘r rhain; a thybied y maent eu bod nhwy ‘n colli, beth bynnag y mae Crist yn ei ennill. Am hynny mae ‘r Pâb yn cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri, a fferru; er mwyn nad ydis yn talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag yr oeddid