A04462:189
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
And trwy‘ch cennad (medd rhyw un) ni ddylessid cychwyn ynghylch y petheu hyn heb orchmynniad Pâb Rhufain: in gymeint ag may efo ‘n unig yw cwlwm a rhwymyn y Gymdeithas Gristnogawl: ⟨p. 95⟩May efe ‘i hunan yw ‘r offeiriad hwnnw o uydd Levi, a fynegodd Duw in y Deutronomium; oddi wrth yr hwn y dylid ceisio cyngor mewn anghyflwr, a chyrchu barn Gwirionedd. A phwy bynnag nid ymufuddhao iw farn ef, may rhaid ydyw lad hwnnw yngwydd ei frodyr; Na ddichyn neb byw ‘n y bid, mo‘i farnu ef, beth bynna‘g a wnelo: fod Christ in teyrnassu‘n y Nef, ag yntef ar y ddayar. Gallu onaw ef in unig wneuthyr beth bynnag allo Christ, neu Dduw ei hun, er mwyn bod gantho ef yr un cynghor-dy ag sydd i Grist: Hefyd nad oes hebddo ef, na ffydd, na Gobaith, nag Eglwys; A‘r neb a‘madawo ag efo, fod hwnnw ‘n ymadel ag in ymwrthod a ‘i jechydwriaeth ei hun. Llymma ‘r siarad sydd gan y Cannonistiaid, coeg wenieithwyr y Pâb, heb gywilydd na gwladeiddrwydd arnynt. Canys braid y gallent ddoedyd y chwaneg, a diau na ellent ddoedyd dim anrhydeddussach, am Grist ei hun.
Ond trwy‘ch cennad (medd rhyw vn) ni ddylessid cychwyn ynghylch y petheu hyn heb orchmynniad Pâb Rhufain: yn gymeint ag may efo ‘n vnig yw cwlwm a rhwymyn y Gymdeithas Gristnogawl: ⟨p. 95⟩May efe ‘i hunan yw ‘r offeiriad hwnnw o vydd Leui, a fynegodd Duw yn y Deutronomium; oddi wrth yr hwn y dylid ceisio cyngor mewn anghyflwr, a chyrchu barn Gwirionedd. A phwy bynnag nid ymufuddhao iw farn ef, may rhaid ydyw lladd hwnnw yngwydd ei frodyr; Na ddichyn neb byw ‘n y byd, mo‘i farnu ef, beth bynna‘g a wnelo: fod Crist yn teyrnassu‘n y Nef, ag yntef ar y ddayar. Gallu onaw ef yn vnig wneuthyr beth bynnag allo Crist, neu Dduw ei hun, er mwyn bod gantho ef yr vn cynghor-dy ag sydd i Grist: Hefyd nad oes hebddo ef, na ffydd, na Gobaith, nag Eglwys; A‘r neb a‘madawo ag efo, fod hwnnw ‘n ymadel ag yn ymwrthod a ‘i iechydwriaeth ei hun. Llymma ‘r siarad sydd gan y Cannonistiaid, coeg wenieithwyr y Pâb, heb gywilydd na gwladeiddrwydd arnynt. Canys braidd y gallent ddoedyd y chwaneg, a diau na ellent ddoedyd dim anrhydeddussach, am Grist ei hun.