A04462:25
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Am hynny pe rhoem na chrybwyllem am yr hen Batrieirch a‘r Prophwydi, y rhai ni threiglassant un darn oi heinioes in ⟨p. 2⟩rhydd oddi wrth gam-ogan a dychan: Nyni a wyddom ddarfod i ray in yr amseroedd gynt, ddoedyd a phregethu in gyffredinawl, fod yr hen Iddewon, 1(y rhai nid amheuwn nad oeddynt addolwyr yr unig ar gwir Dduw) in addoli y nail ai Hwch, 2ai Assyn in lle Duw, ag nad ydoedd ei holl grefydd nhwy ddim amgen onid erchyllddirmyg a di-ystyrwch ar bob Duwiolaeth. Ni a wyddom pan oedd mab Duw a‘n Prynwr Jesus Grist in dyscu‘r Gwir i ddynion,3 gael o honaw ef ei gymeryd in Hudol, in gyfareddwr, in Samaritan, in Beelzebub, in Dwyllwr y bobl, in feddwyn, ag in fwyttawr.
Am hynny pe rhoem na chrybwyllem am yr hen Batrieirch a‘r Prophwydi, y rhai ni threiglassant vn darn oi heinioes yn ⟨p. 2⟩rhydd oddi wrth gam-ogan a dychan: Nyni a wyddom ddarfod i rai yn yr amseroedd gynt, ddoedyd a phregethu yn gyffredinawl, fod yr hen Iddewon, 1(y rhai nid amheuwn nad oeddynt addolwyr yr vnig ar gwir Dduw) yn addoli y naill ai Hwch, 2ai Assyn yn lle Duw, ag nad ydoedd ei holl grefydd nhwy ddim amgen onid erchyllddirmyg a di-ystyrwch ar bob Duwiolaeth. Ni a wyddom pan oedd mab Duw a‘n Prynwr Iesu Grist yn dyscu‘r Gwir i ddynion,3 gael o honaw ef ei gymeryd yn Hudol, yn gyfareddwr, yn Samaritan, yn Beelzebub, yn Dwyllwr y bobl, yn feddwyn, ag yn fwyttawr.
- 1Cornel. Tacitus.
- 2Tertul. in Apolog. cap. 7. C. Plivius.