A04462:38
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ,…Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist,…
Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Christ, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd in y bid hwn, fall y caffont fywyd tragwyddol in y bid a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, in Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.Deffynniad ffydd Eglwys Loegr lle y ceir gweled, a gwybod, dosparth gwir Grefydd Crist, ag anghywirdeb creyfydd Eglwys Rufain : angenrheidiol i bawb ei ddealld, a madws i ddynion ei ddyscu, o ran arwain eu buchedd yn y byd hwn, fal y caffont fywyd tragwyddol yn y byd a ddaw / wedi ei gyfieuthu o Ladin, yn Gymraeg, drwy waith M. Kyffin.
London : Richard Field aì printiodd in Llunden, 1595London : Richard Field aì printiodd yn Llunden, 1595
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ag er na sin Saint Hieronimus i neb gymryd in ddioddefgar pan amhevid ef am *Heresi: etto ninny in hyn o beth a‘mddygwn eyn hun in ddi-chwerw ag in ddi-sen heb na llid na digofaint, pe rhown na ddyle gael ei adel nag in chwerw nag in sen-gar a ddoetto ‘r Gwir: Nyni adawn y faith ffraethder a honno i‘n gwrthwynebwyr, yr rhai beth bynnag a ddoettont in eyn herbyn ni, er chwerwed a serthed fyddo, etto tybied y maent mae digon ⟨p. 9⟩cymmwys a chymedrol ydyw; a pha un ai gwir, ynte celwydd fo, nid gwaeth genthynt. Nid rhaid i ni (y rhai ydym in ymddiffyn y Gwir) wrth y faith ddichellion ar rhain. Gyda hyn▪ o dangosswn fod cyssegrlan Efengyl Duw, ar hen Escobion, a'r Brif-Eglwys, in pwysso ar eyn tu ni, ag na ddarfu i ni heb achos cyfiawn ymadel a nhwynt-hwy, a dychwelyd at yr Apostolion a‘r hen Athrawon Catholic; a gwneuthyr o honom hynny nid in ddirgel neu‘n ddichellgar, eithr in ffyddlon geyr bron Duw, in wirion, in union, in eglur, ag in amlwg: Ag os hwynt-hwy (y rhai sy‘n gochel eyn hathrawiaeth ni, gan finny eu galw eu hunain in Gatholic) a gant welled in hysbys fod yr holl ddanghossion Henafiaeth, o‘r hyn y maent in gwneuthyr cymaint frost, wedi yscydwyd allan o‘u dwylo nhwy, a bod mwy o rim a nerth in eyn hachos ni nag a dygassent: Gobeithio‘r ydym nad oes yr un o honynt mor ddi-offal ar less ei enaid, na feddylio‘n y diwedd pa blaid oreu iddo ‘i gymryd.
Ag er na fynne Sainct Hieronimus i neb gymryd yn ddioddefgar pan amheuid ef am *Heresi: etto nyni yn hyn o beth a‘mddygwn eyn hun yn ddi-chwerw ag yn ddi-sen heb na llid na digofaint, pe rhown na ddyle gael ei adel nag yn chwerw nag yn sen-gar a ddoetto ‘r Gwir: Nyni adawn y fath ffraethder a honno i‘n gwrthwynebwyr, yr rhai beth bynnag a ddoettont yn eyn herbyn ni, er chwerwed a serthed fyddo, etto tybied y maent mae digon ⟨p. 9⟩cymmwys a chymedrol ydyw; a pha vn ai gwir, ynte celwydd fo, nid gwaeth genthynt. Nid rhaid i ni (y rhai ydym yn ymddiffyn y Gwir) wrth y fath ddichellion ar rhain. Gyda hyn▪ o dangosswn fod cyssegrlan Efengyl Duw, ar hen Escobion, a'r Brif-Eglwys, yn pwysso ar eyn tu ni, ag na ddarfu i ni heb achos cyfiawn ymadel a nhwynt-hwy, a dychwelyd at yr Apostolion a‘r hen Athrawon Catholic; a gwneuthyr o honom hynny nid yn ddirgel neu‘n ddichellgar, eithr yn ffyddlon geyr bron Duw, yn wirion, yn vnion, yn eglur, ag yn amlwg: Ag os hwynt-hwy (y rhai sy‘n gochel eyn hathrawiaeth ni, gan fynny eu galw eu hunain yn Gatholic) a gant weled yn hysbys fod yr holl ddanghossion Henafiaeth, o‘r hyn y maent yn gwneuthyr cymaint ffrost, wedi yscydwyd allan o‘u dwylo nhwy, a bod mwy o rym a nerth yn eyn hachos ni nag a dygassent: Gobeithio‘r ydym nad oes yr vn o honynt mor ddi-ofal ar les ei enaid, na feddylio‘n y diwedd pa blaid oreu iddo ‘i gymryd.